P-06-1383 Dylid oedi prosiectau solar a gwynt ar y tir dros 10 MW hyd nes y caiff potensial llawn ynni gwynt ar y môr ei gynnwys

P-06-1383 Dylid oedi prosiectau solar a gwynt ar y tir dros 10 MW hyd nes y caiff potensial llawn ynni gwynt ar y môr ei gynnwys

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Carys Matthews, ar ôl casglu 5,351 o lofnodion ar-lein a 3,747 o lofnodion ar bapur, i wneud cyfanswm o 9,098 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Er mwyn atal difrod diangen ar raddfa eang yng nghefn gwlad Cymru, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi moratoriwm ar bob datblygiad dros 10 MW ar gyfer ynni gwynt ar y tir ac ynni solar a osodir ar dir, hyd nes y caiff Cymru’r Dyfodol 2040 a thargedau ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru eu diweddaru a’u hymgorffori yn Ynni Morol Cymru i sicrhau bod potensial llawn gwynt ar y môr, solar ar ben toeau, a ffynonellau ynni eraill sy’n dod i’r amlwg yn cael ei gydnabod fel blaenoriaeth hollbwysig ar gyfer brwydro yn erbyn newid hinsawdd.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Ar hyn o bryd, mae Cymru’n cynhyrchu 30 awr Terra-Watt (TWh) o ynni (gyda 55 y cant o hynny’n dod o ynni adnewyddadwy), a dim ond 14 TWh y mae’n eu defnyddio. Fodd bynnag, amcangyfrifir y bydd y galw yn cynyddu i 45 TWh erbyn 2050.

Mae gan Gymru botensial enfawr o ran ynni gwynt ymhell ar y môr (yn sefydlog ac yn arnofiol)—rhagwelir y bydd prosiectau ynni gwynt arfaethedig ym Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd cynhyrchu o leiaf 100 TWh o ynni gyda’i gilydd.

Amcangyfrifir hefyd y gallai hyd at 50 y cant o’r ynni a ddefnyddir yng Nghymru ddod o solar ar ben toeau tai, busnesau a meysydd parcio dan do.

Ac eto, nid yw potensial llawn ynni gwynt ar y môr na solar ar ben toeau yn cael ei gyfrif ym mholisi Llywodraeth Cymru. Cydnabu’r Gweinidog Newid Hinsawdd i Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig nad yw hynny’n digwydd, gan nodi nad yw’r ddogfen bolisi, Cymru’r Dyfodol, wedi cael ei diweddaru mewn tair blynedd. Rydym yn galw am i bolisi gael ei ddiweddaru i gynnwys potensial llawn ynni gwynt ar y môr, solar ar ben toeau a thechnolegau eraill sy’n dod i’r amlwg, a hynny er mwyn sicrhau ein bod yn aberthu cyn lleied o gefn gwlad a thir amaeth â phosibl.

 

A group of windmills in the sunset

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 11/12/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod ymateb y Gweinidogion i’r Pwyllgor yn glir ac nid ydynt yn cefnogi moratoriwm. Daeth yr Aelodau i'r casgliad, yng ngoleuni hyn, na allai'r Pwyllgor fynd â'r mater a godwyd yn y ddeiseb ymhellach a chytunodd i gau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/12/2023.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Sir Drefaldwyn
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/12/2023