P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr
P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jade Lily, ar ôl casglu cyfanswm o 10,820
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Yn Lloegr, o fis Ebrill 24, bydd pob rhiant sy'n gweithio â phlant 2 oed yn
cael 15 awr o ofal plant am ddim. O fis Medi 24, bydd hyn yn cael ei estyn i
rieni â phlant 9 mis oed a hŷn. O fis Medi 25, bydd nifer yr oriau o ofal
plant am ddim yn cynyddu i 30.
Mewn cymhariaeth, yng Nghymru, bydd yn cymryd tan fis Medi 25 i ddarparu
12.5 awr o ofal plant am ddim i bob rhiant â phlant 2 oed. A hynny heb gynllun
ar waith i rieni â phlant 9 mis oed a hŷn na chynyddu nifer yr oriau i 15
neu 30.
Rydym mewn argyfwng costau byw lle y mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i
gefnogi rhieni sy'n gweithio ond nid yw’n gwneud hynny.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae Llywodraeth Cymru yn dewis peidio â chyflwyno'r 12.5 awr o ofal am ddim
i rieni â phlant 2 oed fel y cynllun presennol sy’n cynnig 30 awr o ofal plant
am ddim i rieni â phlant 3 oed. Yn hytrach, Dechrau'n Deg sy’n arwain. Mae hyn
yn fwy cymhleth oherwydd ei bod yn golygu bod yn rhaid i chi aros i'ch cod post
fod yn gymwys yn lle bod ar gael i bawb. Ac mae'n rhaid i ddarparwyr gofal
plant gofrestru gyda Dechrau'n Deg cyn hawlio’r arian ar gyfer y 12.5 awr.
Y syniad y tu ôl i hyn yw y bydd Dechrau'n Deg yn gwneud i ddarparwyr gofal
plant ddarparu gofal o ansawdd uwch i greu canlyniadau gwell i bob plentyn. Ond
mae pob darparwr gofal plant cofrestredig yn cael arolygiadau rheolaidd ac
mae'r canlyniadau ar gael ar-lein, felly mae modd cael gwybod am yr ansawdd cyn
gwneud cais i'r lleoliad.
Yn ogystal, mae plant o ardaloedd "difreintiedig" yng Nghymru lle
y mae angen y gofal bob amser wedi cael eu cynnwys gan Dechrau'n Deg ac felly
maent yn gymwys i gael y cynnig gofal plant pan fyddant yn 2 oed i helpu i
wella eu canlyniadau.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/10/2023