P-06-1377 Dylid gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad arfaethedig Parc Solar Caenewydd
P-06-1377 Dylid gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad arfaethedig Parc Solar Caenewydd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Richard Lake, ar ôl casglu 8,274 o lofnodion
ar-lein a 2,092 lofnodion ar bapur, sef cyfanswm o 10,356 lofnodion a gasglwyd.
Geiriad y ddeiseb:
Dylid gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad arfaethedig Parc Solar
Caenewydd; ar dir amaethyddol ar fferm o’r enw Penyfodau Fawr, Abertawe, SA4
4LN a'r ardaloedd cyfagos. O ganlyniad i’r datblygiad hwn, bydd paneli solar yn
gorchuddio rhan o’r fferm. Bydd yr effaith weledol ar ffordd ddynesu ger AHNE Gŵyr
yn niweidiol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Bydd yn cael effaith niweidiol hefyd ar fannau gwyrdd.
Bydd nid yn unig yn amharu ar harddwch naturiol; bydd yn effeithio ar adar
sy'n nythu ar y ddaear ynghyd â llwybrau mudo rhywogaethau adar.
Ni ellir caniatáu i’r prosiect hwn fynd rhagddo.
Bydd fferm sy’n cynnig gwasanaethau hanfodol i’r gymuned leol yn cael ei
newid yn sylweddol.
Bydd mannau gwyrdd yn cael eu colli.
Bydd yn effeithio ar gynefinoedd anifeiliaid.
Efallai bod y prosiect hwn yn bodloni'r meini prawf ar gyfer ynni
adnewyddadwy gwyrdd, ond ni ellir caniatáu iddo fynd rhagddo. Bydd yr effaith
ddilynol ar ffermio lleol, bywyd gwyllt a'r gymuned yn drech na'r angen i roi’r
prosiect hwn ar waith.
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gofyn yn ffurfiol i’r prosiect hwn
beidio â chael ei gymeradwyo fel unrhyw fath o ddatblygiad.
* Cafodd testun y ddeiseb hon ei newid ers ei chreu i adlewyrchu gwybodaeth
newydd am y cais.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gŵyr
- Gorllewin De Cymru
- Hafan y
Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob
deiseb sydd ar agor
- Gweld pob
deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae
proses Ddeisebu yn gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
- The Petitions Committee homepage
- View all open petitions
- View all petitions the committee is
currently considering
- How the petitions system works
- Petition research briefs
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/11/2023