Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/06/2023 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon - y Pwyllgor Deisebau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1331 Ystyriwch roi gofynion cyfreithiol ar waith i bob busnes preifat i sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a diolchodd i ddisgyblion
Ysgol Gynradd Libanus am gymryd rhan yn y broses ddeisebu. Gwnaeth yr Aelodau
gydnabod bod y Llywodraeth wedi sefydlu Tasglu Hawliau Anabledd, y disgwylir
iddo gyhoeddi ei gynllun gweithredu erbyn mis Mawrth 2024, gan nodi bod gwaith
yn mynd rhagddo i ymdrin â phryderon. Cytunodd yr Aelodau i rannu barn y disgyblion â’r
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a gofyn i’r safbwyntiau hyn gael eu rhannu
â’r Tasglu hefyd. Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau nad oes llawer mwy y
gall y Pwyllgor ei wneud wrth aros am adroddiad y Tasglu y flwyddyn nesaf,
felly bydd y ddeiseb yn cael ei chau. Llongyfarchwyd disgyblion Ysgol Gynradd
Libanus am dynnu sylw at y mater pwysig hwn. |
|
P-06-1333 Dylid atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag torri coed, sy’n bygwth parhad gwiwerod coch. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n
ôl at y Gweinidog i rannu sylwadau manwl a chwestiynau'r deisebydd. Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyfoeth
Naturiol Cymru yn gofyn am ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y deisebydd. |
|
P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gynnal
ymchwiliad i’r mater dan sylw yn nhymor yr hydref. |
|
P-06-1336 Gwersi Cymraeg am ddim i bawb sydd isio dysgu'r iaith yng Nghymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ofyn am eglurder
ynghylch sut y gall unigolion gael cymorth ariannol a’r wybodaeth sydd ar gael
i ddarpar ddysgwyr. |
|
P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau'r dyfodol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at y Pwyllgor Busnes i ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Medi, cyn
diwrnod Owain Glyndŵr ar 16 Medi. Nodwyd y bydd Aelodau unigol o bosibl yn dymuno cyfeirio
at ddeisebau eraill yn ystod y ddadl, fel y ddeiseb sy’n galw am gynlluniau
rheoli a chadwraeth gorfodol ar gyfer henebion cofrestredig. Hefyd, cytunodd yr Aelodau i ymweld â'r safle cyn i'r
ddadl gael ei chynnal yn nhymor yr hydref. |
|
P-06-1340 Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at y Pwyllgor Busnes yn gofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn cyn diwedd toriad yr
haf. |
|
Diweddariadau i ddeisebau blaenorol |
|
P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. O ystyried y gwaith manwl
a wnaed gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn y maes hwn, cytunodd yr
Aelodau nad oedd llawer mwy y gellid ei gyflawni drwy'r Pwyllgor Deisebau.
Roedd yr Aelodau’n awyddus i longyfarch y deisebydd am yr ymgyrch lwyddiannus a
arweiniodd at ddeddfwriaeth yn cael ei hystyried. Bydd y Pwyllgor yn rhannu
adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ac ymateb Llywodraeth Cymru â’r
deisebydd ac yn cau’r ddeiseb. |
|
P-06-1299 Dylai "Rhewi ar adeiladu ffyrdd" Llywodraeth Cymru gynnwys cymal ar gyfer achosion sy'n peri perygl i fywyd. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i drafod pa
gamau pellach, os o gwbl, y gall eu cymryd, gan gynnwys a fyddai'n briodol
ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog. |
|
P-06-1269 Peidiwch â gadael i'r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy'n marw yng Nghymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a diolchodd i'r deisebwyr
am eu hymgysylltiad parhaus â'r broses hon, gan gytuno i ysgrifennu at y
Gweinidog i rannu gohebiaeth ddiweddaraf y deisebydd a gofyn am ymateb i'r tri
phwynt a godwyd. |
|
P-06-1304 Adolygu’r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy’n effeithio ar ein cymunedau. Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. Yng ngoleuni'r ymchwiliad
manwl a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn y maes hwn, yr
argymhellion a wnaed ganddynt ac ymateb Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod mwy
o gamau ataliol yn cael eu cymryd, a bod cymorth a llety priodol ar gael hefyd,
cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-06-1307 A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol? Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor, fel y cytunwyd yn flaenorol, y
byddai’n ymweld ag ystâd Cwm Calon yn Ystrad Mynach gyda Hefin David AS ar 26
Mehefin. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Trafod yr Adroddiad Blynyddol drafft. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr Adroddiad Blynyddol drafft a
chytunwyd y dylid anelu at gyhoeddi'r adroddiad terfynol cyn toriad yr haf. |
|
Trafod allbynnau'r ymchwiliad i fesuryddion rhagdalu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft a chytunodd i
anfon copi o’r ohebiaeth hon at Scottish
Power, Centrica ac Energy UK cyn gynted â phosibl. |