P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol

P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Elfed Wyn ap Elwyn, ar ôl casglu cyfanswm o 10,539 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae hanes yn bwnc mor allweddol i ni yma yn Nghymru. Mae straeon o'n cenedl yn dangos i ni sut rydym ni wedi datblygu dros y canrifoedd i fod fel rydym heddiw. Mae cymeriadau wedi lliwio'r hanes diddorol yma, gyda neb mor amlwg ag Owain Glyndŵr, sydd wedi cyfrannu gymaint i'n hunaniaeth, ac mae llawer yn ei ddefnyddio fel symbol y genedl. Mae'n ddigalon iawn i weld bod cartref Glyndŵr, sef Sycharth, bron yn angof yng nghanol cefn gwlad Powys, a dyw'r lle ddim yn hygyrch iawn i bobl gael ymweld.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae'n amser i'r Llywodraeth fynd ati i sicrhau bod y safle hollbwysig yma'n cael ei gadw'n saff i'r genhedlaeth nesaf, drwy ei brynu a'i wneud yn fwy hygyrch i bobl allu mynd yno i werthfawrogi'r safle bendigedig yma.

Mae'n siomedig gweld yr holl gestyll o gwmpas Cymru'n cael eu gwarchod, a bod y safle yma prin yn cael ei hysbysebu, heb sôn am ddathlu.

Amser newid y ffordd edrychwn ni ar hanes Cymru, gan ddechrau gyda Sycharth.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 27/11/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a mynegodd ei siom ynghylch yr ymateb gan Gyngor Sir Powys i lythyr y Pwyllgor yn gofyn am arwyddion cyfeiriadol at y safle. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad, fodd bynnag, nad oedd llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud a chytunwyd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am gyflwyno’r ddeiseb.

 

Wrth gau'r ddeiseb cytunodd y Pwyllgor hefyd y byddai'n ysgrifennu yn ôl at Gyngor Sir Powys i fynegi ei siom a'i rwystredigaeth ynghylch yr ymateb a gafwyd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 05/06/2023

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Dwyfor Meirionnydd
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/05/2023