P-06-1331 Ystyriwch roi gofynion cyfreithiol ar waith i bob busnes preifat i sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb
P-06-1331 Ystyriwch roi gofynion cyfreithiol ar waith i bob busnes preifat i sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Angharad Curtis, ar ôl casglu cyfanswm o 284
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Ysgol Gynradd Libanus wedi bod yn edrych ar y model cymdeithasol ac o
ganlyniad wedi edrych ar ba mor hygyrch a chynhwysol yw’n tref leol i unigolion
abl ac anabl. Ar ôl ysgrifennu at y cyngor, dywedwyd nad oes rhaid i eiddo
preifat ddilyn y safon llym y mae’n rhaid i fusnesau’r llywodraeth. Felly,
hoffai Ysgol Gynradd Libanus fynd i’r afael â’r mater hwn i sicrhau bod pob
aelod o gymdeithas yn gallu symud drwy ein tref a’n gwlad yn ddidrafferth.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae Ysgol Gynradd Libanus yn tristáu o weld realiti byw gydag anabledd a
hoffai wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau holl ddinasyddion Cymru. Drwy
wrando ar stori eiriolwr o Anabledd Cymru, mae’n amlwg bod modd gwneud mwy i
sicrhau bod Cymru’n wlad hygyrch i bawb.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 05/06/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a diolchodd i ddisgyblion Ysgol Gynradd
Libanus am gymryd rhan yn y broses ddeisebu. Gwnaeth yr Aelodau gydnabod bod y
Llywodraeth wedi sefydlu Tasglu Hawliau Anabledd, y disgwylir iddo gyhoeddi ei
gynllun gweithredu erbyn mis Mawrth 2024, gan nodi bod gwaith yn mynd rhagddo i
ymdrin â phryderon.
Cytunodd yr Aelodau i rannu barn y disgyblion â’r Gweinidog Cyfiawnder
Cymdeithasol a gofyn i’r safbwyntiau hyn gael eu rhannu â’r Tasglu hefyd. Wrth
wneud hynny, cytunodd yr Aelodau nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud
wrth aros am adroddiad y Tasglu y flwyddyn nesaf, felly bydd y ddeiseb yn cael
ei chau. Llongyfarchwyd disgyblion Ysgol Gynradd Libanus am dynnu sylw at y mater
pwysig hwn.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 05/06/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Islwyn
- Gorllewin De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/05/2023