Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-06-1305 Dylid gwrthod y cynnig ynghylch 36 o Aelodau ychwanegol o’r Senedd erbyn 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y pwnc wedi’i ystyried yn fanwl iawn mewn nifer o adroddiadau gan Bwyllgorau’r Senedd, a bod pob un ohonynt yn argymell y dylid cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd i alluogi’r Senedd i graffu ar waith Llywodraeth Cymru yn effeithiol. Hefyd, tynnodd yr Aelodau sylw at y ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil diwygio’r Senedd yn y flwyddyn newydd a fydd yn cynnig cyfle arall i graffu ar y materion hyn yn y Senedd. O ganlyniad, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

2.2

P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Rhys ab Owen AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Helpodd i hyrwyddo'r ddeiseb ac mae'n un o'r llofnodwyr.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i wahodd Hefin David AS i rannu ei ddiddordeb yn y maes hwn, a’i ddealltwriaeth ohono, fel cam cyntaf. Yn dilyn y sesiwn honno, cytunodd y Pwyllgor y byddai’n edrych ar bapur cwmpasu i weld sut olwg fyddai ar ymchwiliad i’r mater.

 

 

2.3

P-06-1308 Rhaid gweithredu ar unwaith i roi terfyn ar aflonyddu rhywiol yn HOLL ysgolion Cymru, nid ysgolion uwchradd yn unig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, gan nodi, er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cymheiriaid ym mhob ysgol, ei bod yn glir ynghylch y ffordd benodol y bydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo, gan gynnwys yr angen am adolygiad o fewn addysg gynradd i ddeall yr heriau’n well.

 

O ganlyniad i’r ymateb hwn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y mater pwysig hwn.

 

3.

Diweddariadau i ddeisebau blaenorol

3.1

P-06-1232 Rhoi terfyn ar sefydlu unedau dofednod dwys trwy ddeddfu a chyflwyno moratoriwm hyd nes y gellir cyflawni hyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd gwestiynau'r deisebydd a oedd yn deillio o ymateb Cyngor Sir Powys. Cytunwyd y dylid trafod y ddau ymateb gyda’i gilydd pan ddaw'r ymateb gan Lywodraeth Cymru i law. 

 

3.2

P-06-1269 Peidiwch â gadael i'r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy'n marw yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ei bod wedi hybu ymgysylltiad cadarnhaol â'r Gweinidog a bod camau cadarnhaol wedi'u cymryd ers hynny. Yn unol â chais y deisebwyr, cytunodd yr Aelodau i ailedrych ar y ddeiseb yn nhymor y gwanwyn, pan fydd mwy o gynnydd i'w weld.

 

3.3

P-06-1270 Gwnewch Hydref 21ain yn Ddiwrnod Coffa swyddogol i'r rhai a laddwyd ac a effeithiwyd gan Drychineb Aberfan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac er na all Llywodraeth Cymru ddynodi gwyliau cenedlaethol, cytunwyd y gallai Llywodraeth Cymru godi’r mater hwn fel rhan o unrhyw drafodaethau â Llywodraeth y DU yn y dyfodol. Hefyd, nodwyd bod yr holl drychinebau mewn glofeydd wedi’u coffáu yn Ardd Goffa Genedlaethol a Chyffredinol y Glowyr. O ganlyniad, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

3.4

P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'r deisebydd yn un o'i etholwyr.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • aros i weld a fydd y mater yn cael ei drafod fel rhan o waith y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai; ac,
  • yn y cyfamser, ysgrifennu’n ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn beth sy’n cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth o hawliau pobl o ran y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru).

 

3.5

P-06-1289 Dylid cytuno ar ddeiliadaeth o 105 diwrnod, yn hytrach na 182 diwrnod, er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng busnesau llety gwyliau ac ail gartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i roi gwybod i'r deisebydd am yr ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru ar y mater o dan sylw. Cytunodd yr Aelodau eu bod wedi mynd â'r ddeiseb mor bell â phosibl. Penderfynwyd y dylid cau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r mater.

 

3.6

P-06-1292 Gwneud i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd ar allyriadau cwmpas 3 a'u cynnwys mewn targedau sero net

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith bellach wedi dechrau darn o waith ar ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus. Oherwydd y gwaith sydd eisoes ar y gweill yn y maes hwn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. 

 

3.7

P-06-1293 - Dylid darparu cyllid ar gyfer mynediad cyffredinol i Wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. O gofio bod y Gweinidog bellach wedi egluro’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella mynediad at wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn ledled Cymru ac nid oes gan y deisebydd unrhyw sylwadau i’w hychwanegu, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y pryder hwn.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Adroddiad drafft - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd ar rai mân newidiadau. Gofynnodd yr Aelodau a fyddai'n bosibl cyhoeddi’r adroddiad terfynol cyn y Nadolig.

 

6.

Adroddiad drafft - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr adroddiad, yn amodol ar ychwanegu barn leiafrifol Joel James AS. Bwriedir i’r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd.

 

7.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.