P-06-1305 Dylid gwrthod y cynnig ynghylch 36 o Aelodau ychwanegol o'r Senedd erbyn 2026
P-06-1305 Dylid gwrthod y cynnig ynghylch 36 o Aelodau ychwanegol o'r Senedd erbyn 2026
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gareth John Phillips, ar ôl casglu cyfanswm o
760 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Llafur a Phlaid Cymru yn cynnig estyn y 60 Aelod o’r Senedd ar hyn o
bryd i 96 o Aelodau erbyn 2026. Mae hyn yn wastraff arian cyhoeddus pan fo modd
ei ddefnyddio’n well ar wasanaethau cyhoeddus, megis cyllid gwell i gynghorau
lleol. Gyda’r argyfwng costau byw parhaus, bydd hyn yn arwain at wastraffu mwy
o arian cyhoeddus gyda’r gost o gyflogi 36 Aelod a’u staff cymorth. Rwy’n
meddwl y byddai pleidlais ar hyn gan bobl Cymru yn syniad gwell o
ddemocratiaeth ar waith.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Gyda’r costau byw yn effeithio ar bobl ar draws cymdeithas, rwyf o’r farn
bod y cynnig ynghylch 36 Aelod ychwanegol yn wrthun. Dylai arian cyhoeddus gael
ei wario ar ofal, cynghorau, cefnogi economïau lleol a helpu pobl ar draws
Cymru gyfan.
Mae’r bobl yn haeddu llais ar y mater, ac rwy’n gobeithio bod digon o bobl
yn llofnodi i ddwyn digon o bwysau i’r pleidiau ailystyried eu cynlluniau a
meddwl am bobl Cymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 05/12/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y pwnc wedi’i
ystyried yn fanwl iawn mewn nifer o adroddiadau gan Bwyllgorau’r Senedd, a bod
pob un ohonynt yn argymell y dylid cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd i
alluogi’r Senedd i graffu ar waith Llywodraeth Cymru yn effeithiol. Hefyd,
tynnodd yr Aelodau sylw at y ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil
diwygio’r Senedd yn y flwyddyn newydd a fydd yn cynnig cyfle arall i graffu ar
y materion hyn yn y Senedd. O ganlyniad, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a
diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 05/12/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/11/2022