P-06-1308 Rhaid gweithredu ar unwaith i roi terfyn ar aflonyddu rhywiol yn HOLL ysgolion Cymru, nid ysgolion uwchradd yn unig
P-06-1308 Rhaid gweithredu ar unwaith i roi terfyn ar aflonyddu rhywiol yn HOLL ysgolion Cymru, nid ysgolion uwchradd yn unig
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Hanna Andersen, ar ôl casglu 417 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae ymchwiliad diweddar y Senedd i aflonyddu rhywiol mewn ysgolion uwchradd
wedi dangos graddfa’r broblem, yn enwedig i ferched. Mae’r dystiolaeth yn
dangos bod aflonyddu hefyd yn rhemp mewn ysgolion cynradd a cholegau, ac mae’r
adroddiad yn argymell cynnal adolygiadau pellach. Ni allwn aros am ragor o
ymchwiliadau cyn gweithredu. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y camau a
gymerir yn sgil yr adroddiad yn cael eu hymestyn ar unwaith i gynnwys pob
lleoliad, a hynny er mwyn cadw dysgwyr yn ddiogel rhag aflonyddu rhywiol drwy
gydol eu haddysg.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym
mis Gorffennaf 2022, sef 'Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng
cyfoedion ymhlith dysgwyr’, a’r adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn ym mis Rhagfyr
2021, sef ‘Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon’, ill dau wedi dangos
maint a graddfa’r broblem o aflonyddu rhywiol mewn ysgolion, yn enwedig yr
aflonyddu y mae merched yn ei wynebu.
Dangosodd y dystiolaeth nad yw hyn yn digwydd mewn ysgolion uwchradd yn
unig; mae'n dechrau yn y sector cynradd, ac yn dilyn merched a menywod ifanc i
addysg bellach a thu hwnt. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru
gomisiynu adolygiadau pellach o’r lleoliadau hyn.
Mae plant a phobl ifanc yng Nghymru wedi bod yn aros yn ddigon hir am gamau
gweithredu ynghylch y mater hwn, sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd a’u
profiadau dysgu. Bydd ymchwiliad arall ond yn gohirio’r gwaith pwysig o newid
diwylliant sy’n ystyried bwlio rhywiol cyffredin fel rhan arferol o gymdeithas
ac addysg. Rhaid gweithredu yn awr ym mhob ysgol a choleg.
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38554.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 05/12/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, gan nodi, er bod Llywodraeth Cymru yn
cydnabod pwysigrwydd mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cymheiriaid ym
mhob ysgol, ei bod yn glir ynghylch y ffordd benodol y bydd y gwaith hwn yn
mynd rhagddo, gan gynnwys yr angen am adolygiad o fewn addysg gynradd i ddeall
yr heriau’n well.
O ganlyniad i’r ymateb hwn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch
i’r deisebydd am dynnu sylw at y mater pwysig hwn.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 05/12/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Wrecsam
- Gogledd Cymru
- Hafan y
Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob
deiseb sydd ar agor
- Gweld pob
deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn
gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/10/2022