Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd
ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1305 Dylid gwrthod y cynnig ynghylch 36 o Aelodau ychwanegol o’r Senedd erbyn 2026 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb
a nododd fod y pwnc wedi’i ystyried yn fanwl iawn mewn nifer o adroddiadau gan
Bwyllgorau’r Senedd, a bod pob un ohonynt yn argymell y dylid cynyddu nifer yr
Aelodau o’r Senedd i alluogi’r Senedd i graffu ar waith Llywodraeth Cymru yn
effeithiol. Hefyd, tynnodd yr Aelodau sylw at y ffaith y bydd Llywodraeth Cymru
yn cyflwyno Bil diwygio’r Senedd yn y flwyddyn newydd a fydd yn cynnig cyfle
arall i graffu ar y materion hyn yn y Senedd. O ganlyniad, cytunodd yr Aelodau
i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Rhys ab Owen AS y
buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Helpodd i hyrwyddo'r ddeiseb ac
mae'n un o'r llofnodwyr. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb
a chytunodd i wahodd Hefin David AS i rannu ei ddiddordeb yn y maes hwn, a’i
ddealltwriaeth ohono, fel cam cyntaf. Yn dilyn y sesiwn honno, cytunodd y
Pwyllgor y byddai’n edrych ar bapur cwmpasu i weld sut olwg fyddai ar
ymchwiliad i’r mater. |
|
P-06-1308 Rhaid gweithredu ar unwaith i roi terfyn ar aflonyddu rhywiol yn HOLL ysgolion Cymru, nid ysgolion uwchradd yn unig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb,
gan nodi, er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd mynd i’r afael ag
aflonyddu rhywiol rhwng cymheiriaid ym mhob ysgol, ei bod yn glir ynghylch y
ffordd benodol y bydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo, gan gynnwys yr angen am
adolygiad o fewn addysg gynradd i ddeall yr heriau’n well. O ganlyniad i’r ymateb hwn, cytunodd yr Aelodau i gau’r
ddeiseb a diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y mater pwysig hwn. |
|
Diweddariadau i ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1232 Rhoi terfyn ar sefydlu unedau dofednod dwys trwy ddeddfu a chyflwyno moratoriwm hyd nes y gellir cyflawni hyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb
a nododd gwestiynau'r deisebydd a oedd yn deillio o ymateb Cyngor Sir Powys.
Cytunwyd y dylid trafod y ddau ymateb gyda’i gilydd pan ddaw'r ymateb gan
Lywodraeth Cymru i law. |
|
P-06-1269 Peidiwch â gadael i'r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy'n marw yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb
a nododd ei bod wedi hybu ymgysylltiad cadarnhaol â'r Gweinidog a bod camau
cadarnhaol wedi'u cymryd ers hynny. Yn unol â chais y deisebwyr, cytunodd yr
Aelodau i ailedrych ar y ddeiseb yn nhymor y gwanwyn, pan fydd mwy
o gynnydd i'w weld. |
|
P-06-1270 Gwnewch Hydref 21ain yn Ddiwrnod Coffa swyddogol i'r rhai a laddwyd ac a effeithiwyd gan Drychineb Aberfan Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac er na all Llywodraeth
Cymru ddynodi gwyliau cenedlaethol, cytunwyd y gallai Llywodraeth Cymru godi’r
mater hwn fel rhan o unrhyw drafodaethau â Llywodraeth y DU yn y dyfodol.
Hefyd, nodwyd bod yr holl drychinebau mewn glofeydd wedi’u coffáu yn Ardd Goffa
Genedlaethol a Chyffredinol y Glowyr. O ganlyniad, cytunodd yr Aelodau i gau’r
ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant
perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'r deisebydd yn un o'i
etholwyr. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
|
|
P-06-1289 Dylid cytuno ar ddeiliadaeth o 105 diwrnod, yn hytrach na 182 diwrnod, er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng busnesau llety gwyliau ac ail gartrefi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i roi gwybod
i'r deisebydd am yr ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru ar
y mater o dan sylw. Cytunodd yr Aelodau eu bod wedi mynd â'r ddeiseb mor bell â
phosibl. Penderfynwyd y dylid cau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r
mater. |
|
P-06-1292 Gwneud i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd ar allyriadau cwmpas 3 a'u cynnwys mewn targedau sero net Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith bellach wedi dechrau darn o waith ar
ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus. Oherwydd y gwaith sydd eisoes ar y gweill
yn y maes hwn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1293 - Dylid darparu cyllid ar gyfer mynediad cyffredinol i Wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb.
O gofio bod y Gweinidog bellach wedi egluro’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella
mynediad at wasanaethau Cyswllt Torri Esgyrn ledled Cymru ac nid oes gan y
deisebydd unrhyw sylwadau i’w hychwanegu, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a
diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y pryder hwn. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Adroddiad drafft - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd ar
rai mân newidiadau. Gofynnodd yr Aelodau a fyddai'n bosibl cyhoeddi’r adroddiad
terfynol cyn y Nadolig. |
|
Adroddiad drafft - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunwyd ar yr adroddiad, yn amodol ar ychwanegu barn
leiafrifol Joel James AS. Bwriedir i’r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi yn y
flwyddyn newydd. |
|
Blaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith. |