Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/03/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Joel James AS. Roedd James Evans
AS yn bresennol yn y cyfarfod, yn dirprwyo ar ran Joel James AS. |
|
Sesiwn dystiolaeth – P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn Dr Louise Roberts, CASCADE Jennifer Molloy, care experienced parent Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Louise Roberts o’r Ganolfan Ymchwil a Datblygu
Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), a Jennifer Molloy, rhiant sydd wedi bod
mewn gofal. |
|
Sesiwn dystiolaeth – P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn Mark Carter - Barnardo’s Cymru South East Wales Liz Baker - Barnardo’s Cymru Cardiff and Vale Sharon Lovell - NYAS Daljit Kaur Morris - NYAS Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Carter, Barnardo’s Cymru, De-ddwyrain Cymru; Liz
Baker, Barnardo’s Cymru, Caerdydd a’r Fro; Sharon Lovell, y Gwasanaeth
Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol; a Daljit Kaur Morris, y Gwasanaeth
Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1235 Dylid sicrhau darpariaeth briodol o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd, a chytunodd i ysgrifennu at y cyrff a ganlyn:
Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn ceisio’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y
gwasanaethau a ddarperir i bobl sydd wedi cael niwed i’r ymennydd a
gwasanaethau niwroadsefydlu yng ngogledd Cymru. |
|
P-06-1248 Dylid newid y Rheolau Sefydlog a’r meini prawf ar gyfer derbyn deisebau. Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd, sy’n penderfynu ar
ffurf briodol deisebau cyhoeddus a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 23, er mwyn
gofyn am ei hymateb i'r ddeiseb. |
|
P-06-1255 Sicrhau bod tadau/partneriaid geni yn cael eu cynnwys ym mhob asesiad a gofal drwy gydol y cyfnod amenedigol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a nododd fod camau cadarnhaol yn cael eu
cymryd i fynd i'r afael â phryderon ynghylch y mater o gynnwys tadau drwy gydol
y cyfnod amenedigol. Nododd hefyd fod y deisebydd wedi croesawu'r cyfle i fod
yn rhan o lunio gwaith yn y dyfodol a dylanwadu arno. Yn sgil hynny, cytunodd y
Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd am godi’r mater pwysig hwn ac am ymgyrchu i
sicrhau newid ar ran eraill, a chaeodd y ddeiseb. |
|
P-06-1256 Cynnal refferendwm ar Gymru yn dod yn Genedl Noddfa Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ailadroddodd y
Pwyllgor y cynigion diffuant o gymorth a gafwyd gan bobl Cymru, sy’n sefyll
mewn undod â phobl Wcráin, a’r gefnogaeth gref a fynegwyd gan Aelodau o’r
Senedd, gan atgyfnerthu’r ffaith bod Cymru’n dymuno croesawu ceiswyr lloches a
ffoaduriaid. Nododd y Pwyllgor
fod ymgynghoriad eisoes wedi'i gynnal ar y cynllun Cenedl Noddfa, a bod y
cynllun hwnnw wedi ennill cefnogaeth eang. Felly, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch
i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. |
|
P-06-1257 Lleihau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo ar ystadau preifat Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu eto at y
Gweinidog, yn gofyn am amserlen arfaethedig ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth
newydd, ac yn gofyn hefyd a oes gan awdurdodau lleol bŵer i sefydlu eu cwmnïau cynnal a chadw eu hunain, neu a fyddai
modd rhoi'r pŵer
iddynt wneud hynny. |
|
P-06-1259 Gwahardd bagiau baw cŵn nad ydynt yn fioddiraddiadwy Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, gan dderbyn safbwynt Llywodraeth Cymru ei
bod yn ymdrin â'r mater fel rhan o'i dull gweithredu ar gyfer lleihau sbwriel.
Felly, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chaeodd y ddeiseb. |
|
P-06-1260 Dylid dileu’r angen am basys Covid ar gyfer pob digwyddiad a gweithgaredd Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law. Cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd
a chau'r ddeiseb, gan nad oes angen pasys COVID bellach ar gyfer digwyddiadau a
gweithgareddau. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1224 Dylunio cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol 'Ymadawyr Gofal a Mwy' sy'n cynnwys amrywiaeth o bobl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Croesawodd y
Pwyllgor y ffaith bod yr holl argymhellion a wnaed yn ei adroddiad naill ai
wedi’u derbyn neu wedi’u derbyn mewn egwyddor. Llongyfarchodd y Pwyllgor y
deisebydd ar y canlyniad llwyddiannus a gafwyd, a chytunodd i gau’r ddeiseb. |
|
P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor hanes y ddeiseb. Yng ngoleuni’r ddadl a gafwyd eisoes yn y Cyfarfod
Llawn, ynghyd â thrafodaethau’r Pwyllgor a’r dadleuon a gafwyd yn y llysoedd,
cytunodd y Pwyllgor nad oedd modd cymryd y ddeiseb ymhellach, a chytunodd i
gau’r ddeiseb. |
|
P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, yn ogystal â hanes y ddeiseb. Yng
ngoleuni’r ddadl a gafwyd eisoes yn y Cyfarfod Llawn, ynghyd â thrafodaethau’r
Pwyllgor a’r dadleuon a gafwyd yn y llysoedd, cytunodd y Pwyllgor nad oedd modd
cymryd y ddeiseb ymhellach, a chytunodd i gau’r ddeiseb. |
|
P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law. Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog, yn gofyn pryd y bydd penderfyniad
yn debygol o gael ei wneud ar y mater hwn. |
|
P-06-1217 Agor canolfannau / clinigau meddygol un stop Covid Hir Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor, er bod Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau sy’n diwallu
anghenion llawer o bobl â COVID hir, ei bod yn amlwg nad yw’r gwasanaethau hyn
yn briodol i bawb, fel y mae’r deisebydd wedi’i nodi. Cytunodd y Pwyllgor i
ysgrifennu at y Gweinidog, gan awgrymu y gallai fod yn brofiad gwerthfawr i
Lywodraeth Cymru pe bai’n cwrdd â’r deisebydd a chleifion eraill i wrando ar eu
pryderon a’u hawgrymiadau. Nododd
y Pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol creu cyswllt rhwng y deisebydd a’r gwaith
sy’n cael ei wneud gan y Grŵp
Trawsbleidiol ar COVID Hir. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 7 Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Trafod y dystiolaeth – P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. Bydd yn cymryd tystiolaeth bellach gan
awdurdodau lleol, Voices from Care Cymru a rhieni sydd wedi bod mewn
gofal. |