P-06-1259 Gwahardd bagiau baw cwn nad ydynt yn fioddiraddiadwy
P-06-1259 Gwahardd bagiau baw cwn nad ydynt yn fioddiraddiadwy
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jason Dickinson, ar ôl casglu cyfanswm o 61
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae bagiau plastig gwastraff cŵn yn para am ganrifoedd, ac maent yn
cael effaith negyddol sylweddol ar yr amgylchedd. Hyd yn oed pan fyddant yn
torri’n ddarnau llai yn y pen draw, maent yn dal i fodoli fel microplastigau
gwenwynig, sy’n peryglu iechyd pobl a bywyd gwyllt.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 21/03/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, gan
dderbyn safbwynt Llywodraeth Cymru ei bod yn ymdrin â'r mater fel rhan o'i dull
gweithredu ar gyfer lleihau sbwriel. Felly, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r
deisebydd a chaeodd y ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
21/03/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Llanelli
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/03/2022