P-06-1224 Dylunio cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol 'Ymadawyr Gofal a Mwy' sy'n cynnwys amrywiaeth o bobl
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jonathan Rhys Williams, ar ôl casglu cyfanswm
o 1,051 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddylunio cynllun Incwm Sylfaenol
Cyffredinol (ISC) yn ôl ardal ddaearyddol sy'n cynnwys plant, pobl gyflogedig,
pobl ddi-waith a phensiynwyr, yn ogystal â'r rhai sy'n gadael gofal.
Bydd hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru a'r cyhoedd ddeall sut y byddai'r
polisi'n effeithio ar Gymru pe bai'n cael ei gyflwyno yfory.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 21/03/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Croesawodd y Pwyllgor y ffaith bod yr holl argymhellion a
wnaed yn ei adroddiad naill ai wedi’u derbyn neu wedi’u derbyn mewn egwyddor.
Llongyfarchodd y Pwyllgor y deisebydd ar y canlyniad llwyddiannus a gafwyd, a
chytunodd i gau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
15/11/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/11/2021
Dogfennau