P-06-1260 Dylid dileu'r angen am basys Covid ar gyfer pob digwyddiad a gweithgaredd

P-06-1260 Dylid dileu'r angen am basys Covid ar gyfer pob digwyddiad a gweithgaredd

Wedi gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Max McKeown, ar ôl casglu cyfanswm o 353 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae angen i’r defnydd o basys gyd-fynd â gweddill y Deyrnas Unedig, er mwyn cynorthwyo adferiad ariannol busnesau llai o faint a lleoliadau lletygarwch yng Nghymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Nid oes unrhyw ddata gwyddonol na data modelu sy’n dangos, mewn unrhyw ffordd, bod y pasys yn atal, arafu neu mewn gwirionedd yn olrhain lledaeniad unrhyw amrywiad ar sars cov 2 (Covid 19).

Mae parhau i ddefnyddio'r pasys hyn yn gosod baich ariannol ychwanegol ar leoliadau sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.

 

 

A hand holding a phone

Description automatically generated with medium confidence

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 21/03/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law. Cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb, gan nad oes angen pasys COVID bellach ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/03/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Cwm Cynon
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/02/2022