P-06-1257 Lleihau'r dreth gyngor ar gyfer eiddo ar ystadau preifat Cefndir

P-06-1257 Lleihau'r dreth gyngor ar gyfer eiddo ar ystadau preifat Cefndir

Wedi'i gwblhai

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mark Henson, ar ôl casglu cyfanswm o 578 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Dylai fod yn ofynnol i gynghorau leihau'r dreth gyngor ar gyfer eiddo sy’n rhan o ystadau "preifat", gan fod yr holl gostau cynnal a chadw ar gyfer yr ardaloedd cymunedol yn cael eu talu gan berchnogion yr eiddo, a all fod yn lesddeiliaid neu’n rhydd-ddeiliaid.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Nid yw'r cynghorau lleol yn derbyn cyfrifoldeb am gostau cynnal a chadw mewn ardaloedd cymunedol ar ystadau tai newydd. Mae hyn yn arwain datblygwr i benodi cwmnïau rheoli i'w wneud am gost na chaiff y rhydd-ddeiliaid ei thrafod na'i herio. Felly, mae'r gost o gynnal yr ardaloedd cymunedol hyn ar ystadau tai newydd yn cael ei hysgwyddo fwyfwy gan berchnogion tai. Fodd bynnag, nid yw'r perchnogion tai hyn yn cael unrhyw ostyngiad cyfatebol ym miliau’r dreth gyngor.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 27/06/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd rwystredigaeth y deisebydd gyda chynnydd araf Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn. Fodd bynnag, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi deddfwriaeth ar waith i wella hawliau lesddeiliaid, ychydig iawn y gall y Pwyllgor ei wneud ymhellach, ar hyn o bryd, ac felly cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/03/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ogwr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/03/2022