P-06-1235 Dylid sicrhau darpariaeth briodol o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i'r ymennydd

P-06-1235 Dylid sicrhau darpariaeth briodol o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i'r ymennydd

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Dr Claire Williams, ar ôl casglu cyfanswm o 443 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae angen adolygiad brys o’r ddarpariaeth o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd.

 

Ar hyn o bryd nid oes dim gwasanaethau adsefydlu cleifion mewnol yng ngogledd Cymru ar gyfer pobl sydd wedi cael niwed i’r ymennydd, ac nid oes ond pedwar gwely cleifion mewnol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd.

Rhaid wrth wasanaethau sy’n ddigonol ac yn 'addas at y diben’.

Mae’n amser ar gyfer newid.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Yn 2018, lansiodd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Gleifion Sydd Wedi Cael Niwed i’r Ymennyd yr adroddiad canlynol: https://cdn.ymaws.com/ukabif.org.uk/resource/resmgr/campaign/appg-abi_report_time-for-cha.pdf

 

Fodd bynnag, roedd angen adroddiad cyfatebol sy’n canolbwyntio yn benodol ar Gymru ac yn ystyried ei demograffeg, ei daearyddiaeth a'i darpariaeth gwasanaethau.

 

Oherwydd yr angen hwn, yn 2021 fe gyhoeddwyd yr adroddiad “Acquired Brain Injury and Neurorehabilitation in Wales: Time for Change” https://ukabif.org.uk/page/TFCWales

 

Gwneir argymhellion allweddol mewn pum maes - Niwroadsefydlu, Addysg, Cyfiawnder Troseddol, Anafiadau Trawmatig i'r Ymennydd sy'n Gysylltiedig â Chwaraeon, a'r System Budd-daliadau Lles - ac mae pob un yn tynnu sylw at yr angen dybryd i adolygu’r ddarpariaeth o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd.

 

Mae cael niwed i’r ymennydd yn epidemig cudd sy'n effeithio ar gannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru, ac mae rhaid wrth wasanaethau sy’n ddigonol ac yn 'addas at y diben'.

 

Mae’n amser ar gyfer newid.

 

A picture of a stethoscope.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 21/11/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i gyfleu sylwadau'r deisebydd, gan gynnwys y cais am gydweithio parhaus i wella gwasanaethau yn y dyfodol ar gyfer cleifion sydd wedi cael niwed i’r ymennydd.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebwyr am amlygu’r mater pwysig hwn.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/03/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gŵyr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2022