P-06-1256 Cynnal refferendwm ar Gymru yn dod yn Genedl Noddfa

P-06-1256 Cynnal refferendwm ar Gymru yn dod yn Genedl Noddfa

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Daniel Morgan, ar ôl casglu cyfanswm o 1,170 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Gyda’r digwyddiadau diweddar yn Affganistan a Mark Drakeford yn ein hatgoffa ni i gyd fod Llywodraeth Cymru am i Gymru fod yn Genedl Noddfa, rydym wir o’r farn y dylai hwn fod yn benderfyniad sy’n cael ei wneud gan bobl Cymru. Rydym yn teimlo, gan mai pobl Cymru fydd yn ariannu hyn yn rhannol trwy drethi, mae gennym hawl i benderfynu ai dyma’r penderfyniad iawn i Gymry. Dylid cynnal refferendwm ar Gymru yn dod yn Genedl Noddfa.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Yn ddiweddar, fe ddywedodd Mark Drakeford ar Twitter "Rydym am i Gymru ddod yn Genedl Noddfa a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi pobl sy'n gadael Affganistan".

 

Linc y neges Twitter yma - https://twitter.com/fmwales/status/1427656017337372675

 

Mae llawer o sylwadau wedi’u gwneud am sut nad oes gan Gymru'r cyfleusterau na'r seilwaith ariannol i dderbyn pobl o bob cwr o'r byd a rhoi cartref iddynt. Fel y soniwyd, mae gennym ein problemau digartrefedd, cyffuriau/alcohol ac argyfwng iechyd meddwl ein hunain, ac ar ben hynny, mae'r economi'n chwalu oherwydd Covid. Mae’n deg dweud na allwn gefnogi mwy o bobl tra bod gennym ein problemau ein hunain i’r fath raddau. Am y rhesymau hyn, rydym yn galw am gynnal refferendwm ar Gymru yn dod yn Genedl Noddfa. Ni ddylai'r penderfyniad hwn erioed fod wedi cael ei wneud heb unrhyw bleidlais gan y cyhoedd. Ni etholwyd unrhyw un ar faniffesto nac addewid i wneud hyn.

 

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 21/03/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ailadroddodd y Pwyllgor y cynigion diffuant o gymorth a gafwyd gan bobl Cymru, sy’n sefyll mewn undod â phobl Wcráin, a’r gefnogaeth gref a fynegwyd gan Aelodau o’r Senedd, gan atgyfnerthu’r ffaith bod Cymru’n dymuno croesawu ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

Nododd y Pwyllgor fod ymgynghoriad eisoes wedi'i gynnal ar y cynllun Cenedl Noddfa, a bod y cynllun hwnnw wedi ennill cefnogaeth eang. Felly, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/03/22.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Dwyrain Abertawe
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/03/2022