Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhys Morgan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/03/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13:30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Cafwyd ymddiheuriadau gan Altaf Hussain. Roedd Sam Kurtz
yn dirprwyo ar ei ran. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai
hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn Gadeirydd
Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. Datganodd Sam Kurtz fuddiant fel cyfarwyddwr yr elusen
gofrestredig: Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru. |
|
(13.30-14.30) |
Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd: Sesiwn dystiolaeth 5 Jane Hutt, Y
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Steve
Chamberlain, Arweinydd Polisi Effeithlonrwydd Ynni Domestig a Thlodi Tanwydd Mark Alexander,
Pennaeth Datgarboneiddio, Arloesedd a Thlodi Tanwydd y Sector Cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Jane Hutt AS, y
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. |
|
(14:30) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: Nododd yr Aelodau y papurau. |
|
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor: Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy'n wynebu rhieni sy'n gweithio Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Gomisiwn y Senedd ar y defnydd o’r term BAME Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Teithio Ymlaen ynghylch gweithredu Deddf Tai (Cymru). Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi ynghylch gorfodi o ran dyledion. Dogfennau ategol: |
||
(14:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(iv) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw. Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14:45-15:10) |
Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd: Sesiwn friffio gydag Archwilio Cymru Mark Jeffs,
Archwilio Cymru Chris Pugh,
Archwilio Cymru Seth Newman,
Archwilio Cymru Cofnodion: Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Archwilio Cymru. |
|
(15:10 - 15:25) |
Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o
wybodaeth ynglŷn â nifer o eitemau a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth. |
|
(15:25-15:30) |
Ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar gynigion i ddiwygio Deddf Hawliau Dynol 1998: trafod gohebiaeth ddrafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Aelodau'n ystyried llythyr at yr Arglwydd Ganghellor
a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder a chytunwyd arno. |
|
(15:30-16:10) |
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol: Gwaith craffu blynyddol – adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunwyd i'w
gwblhau y tu allan i'r Pwyllgor. |
|
(16:10-16:30) |
Blaenraglen waith Blaenraglen waith Diogelwch menywod
a thrais ar sail rhywedd: cylch gorchwyl diwygiedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau y Flaenraglen Waith a chytunwyd
arni. |
|
(16:30-16:35) |
Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE: Adroddiad monitro Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd yr Aelodau yr adroddiad monitro ar y Cynllun
Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) a chytunwyd i ysgrifennu at y
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ofyn am ragor o wybodaeth o ran y dyddiad
cau ar gyfer trwyddedau teulu y Cynllun. |