Dyled ac effaith costau byw cynyddol

Dyled ac effaith costau byw cynyddol

Inquiry5

 

Gyda gofidiau ariannol yn broblem wirioneddol i gynifer o bobl Cymru roedd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud gwaith dilynol ar ddyled ac effaith costau byw cynyddol. Roedd y Pwyllgor yn ailedrych ar rai o’r themâu a oedd yn codi yn ystod ei ymchwiliad blaenorol i ddyled a'r pandemig ac yn edrych yn fanwl ar effeithiolrwydd yr ymateb i'r sefyllfa bresennol o ran polisi.

 

Cylch gorchwyl

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd ystyried:

>>>> 

>>>Y blaenoriaethau y mae angen iddynt gael eu hadlewyrchu yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 sy’n ymwneud â chostau byw cynyddol, gan gynnwys atal a lleihau dyledion.

>>>Pa mor effeithiol y mae cymorth gan lywodraeth Cymru a llywodraeth y DU wedi bod wrth gefnogi'r rhai mwyaf anghenus gyda phwysau costau byw, ac wrth atal a rheoli dyled.

>>>Effaith chwyddiant a phwysau costau byw ar y nifer sy'n manteisio ar wasanaethau cyngor ar ddyledion, a deall goblygiadau'r galw yn y dyfodol a pholisi Llywodraeth Cymru.

>>>Sut mae gwahanol grwpiau'n profi pwysau costau byw, a sut mae hyn yn effeithio ar faterion yn ymwneud â dyled. Pa mor effeithiol yw ymyriadau polisi sy'n mynd i'r afael â'r heriau hyn, a pha newidiadau y gallai fod eu hangen i ddiwallu anghenion grwpiau penodol.

<<< 

 

Casglu tystiolaeth

 

Roedd y Pwyllgor yn cymryd tystiolaeth yn y gwanwyn 2023.

Cynhaliodd y Tîm Ymgysylltu gyfres o grwpiau ffocws ac mae eu tystiolaeth i'w gweld yma: Crynodeb o'r gwaith ymgysylltu - Dyled ac effaith costau byw   PDF 143 KB

 

Daeth yr ymatebion ysgrifenedig a ganlyn i law’r Pwyllgor:

 

Fare Share Cymru (Saesneg yn unig)   PDF 173 KB

Cymdeithas Undebau Credyd Prydain Cyfyngedig (Saesneg yn unig)   PDF 148 KB

Cyngor ar Bopeth Cymru (Saesneg yn unig)   PDF 704 KB

Chwarae Teg (Saesneg yn unig)   PDF 463 KB

Ymddiriedolaeth Trussell (Saesneg yn unig)   PDF 230 KB

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)   PDF 251 KB

StepChange (Saesneg yn unig)   PDF 215 KB

Well-Fed (Saesneg yn unig)   PDF 128 KB

 

Rhoddodd y tystion a ganlyn dystiolaeth lafar i’r Pwyllgor ar y dyddiadau a nodir isod. Gellir gweld trawsgrifiadau o’r holl sesiynau tystiolaeth lafar ar dudalen we’r Pwyllgor.

 

Peter Tutton, StepChange - Pennaeth Polisi, Ymchwil a Materion Cyhoeddus

 

Luke Young, Cyngor ar Bopeth - Cyfarwyddwr Cynorthwyol

 

Steffan Evans, Sefydliad Bevan - Swyddog Polisi ac Ymchwil

30 Ionawr 2023

Sarah Germain, Prif Swyddog Gweithredol - FareShare

 

Jen Griffiths, Rheolwr Gwasanaeth – Cyngor Sir y Fflint

 

Robbie Davison - Well Fed

13 Chwefror 2023

Nicola Field – Undebau Credyd Cymru

 

Karen Davies – Purple Shoots

 

Susan Lloyd-Selby, Arweinydd Rhwydwaith Cymru - Ymddiriedolaeth Trussell

13 Chwefror 2023

 

 

 

27 Chwefror 2023

 

Cynhaliwyd sesiwn dystiolaeth Weinidogol gyda Jane Hutt AS, ar 27 Chwefror 2023 lle cyflwynodd y Llywodraeth y bapur yma: Tystiolaeth gan Llywodraeth Cymru   PDF 273 KB

 

Adodd

 

Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad o’r enw “Anghynaladwy: dyled o ganlyniad i gostau byw cynyddol” ddydd Mawrth 23 Mai 2023.

 

Ar ôl ei gyhoeddi, dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

“Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith ddinistriol ar iechyd a chyfoeth ein cenedl ac mae gormod o aelwydydd yn wynebu caledi annerbyniol sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.” Mae gweddill y datganiad i'r cyfryngau i'w weld yma.

 

 

Ymateb y Llywodraeth

Derbyniodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 12 Gorffennaf 2023.

 

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Medi 2023.

 

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ymchwiliad y Pwyllgor i dlodi tanwydd.

Gallwch hefyd gael gwybodaeth am ymchwiliad y Pwyllgor i Ddyled a'r Pandemig.

 

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/11/2022

Dogfennau

Papurau cefndir