Dyled a'r pandemig

Dyled a'r pandemig

Inquiry5

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymchwiliad byr i effaith y pandemig ar lefelau dyled, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddyled bersonol, dyled aelwydydd a dyled defnyddwyr.

 

Cylch gorchwyl

 

Y cylch gorchwyl oedd archwilio:

  • Effeithiolrwydd dull cyffredinol Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â materion yn ymwneud â dyled yn ystod y pandemig, ac ystyried sut y gallai fod angen i'w pholisi ddatblygu dros y misoedd nesaf i wynebu'r heriau sydd ar ddod.
  • Effaith dyled unigol ar wasanaethau cyhoeddus yn ystod y pandemig a thu hwnt, ac archwilio a ellid gwneud newidiadau i'r dulliau y mae cyrff cyhoeddus yn eu gweithredu ar gyfer adennill dyledion.
  • Effaith y pandemig ar y nifer sy'n manteisio ar wasanaethau cyngor ar ddyledion, a deall goblygiadau'r galw am bolisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
  • Sut y mae grwpiau gwahanol wedi cael profiad o broblemau dyled drwy gydol y pandemig, ac a yw ymyriadau polisi Llywodraeth Cymru wedi diwallu anghenion grwpiau penodol.
  • Effeithiolrwydd mecanweithiau fel y Gronfa Cymorth Dewisol a chredyd fforddiadwy wrth ddarparu cymorth i'r rhai â'r angen mwyaf yn ystod y pandemig, a pha newidiadau a allai wella'r ddarpariaeth yn y dyfodol.

 

Casglu tystiolaeth

 

Mae'r Pwyllgor wedi gorffen cymryd tystiolaeth. Mae mwy o wybodaeth ar gael o dan y tab cyfarfodydd ar frig y dudalen.

 

Mae tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol wedi dod i law gan Shelter Cymru (PDF,559KB), Chwarae Teg (PDF, 332KB) a Chartrefi Cymunedol Cymru (PDF, 192KB).

 

Adroddiad

 

Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad “Dyled a’r pandemig” (PDF, 1458KB) ddydd Llun 15 Tachwedd. Yn dilyn ei gyhoeddi, dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

“Rydym yn wynebu gaeaf lle mae prisiau tanwydd a chostau bwyd ar gynnydd ac ar yr un pryd mae’r gefnogaeth allweddol a gafwyd gan y Llywodraeth yn ystod y pandemig, a wnaeth gymaint i gadw pobl ar eu traed, yn dod i ben. Mae'n amlwg nad yw cartrefi ledled y wlad eto wedi dechrau teimlo effeithiau llawn y pandemig ar eu sefyllfa ariannol.”

 

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 6 Ionawr 2022. Trafodwyd yr adroddiad ac ymateb y llywodraeth yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 12 Ionawr 2022.

 

Bydd y Pwyllgor yn parhau i fonitro'r mater hwn yn ystod y Chweched Senedd.

 

A picture containing text, table, indoor

Description automatically generated

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/09/2021

Dogfennau