Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/01/2025 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Laura Anne Jones AS. Croesawodd
y Pwyllgor Peter Fox AS a oedd yn driprwyo yn ei lle. |
|
(13.30 - 14.30) |
Sesiwn dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ar y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau)
(Cymru), fel y’i cyflwynwyd Ymatebion i ymgynghoriad y Pwyllgor ar y Bil Julie James AS, y
Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni Dylan Hughes,
Prif Gwnsler Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru Claire Fife,
Cynghorydd Polisi i’r Cwnsler Cyffredinol a Phennaeth Swyddfa’r Codau
Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol
a’r Gweinidog Cyflawni ar y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a
Diddymiadau) (Cymru). |
|
(14.35 - 14.40) |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 Dogfennau ategol: |
|
|
SL(6)560 - Cyfarwyddyd Mesurau Diogelwch Ac Argyfwng (Ymgymerwyr Dŵr A Charthffosiaeth A Thrwyddedeion Cyflenwi Dŵr) (Diwygio A Dirymu) 2024 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
(14.40 - 14.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
|
SL(6)561 - Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
(14.45 - 14.50) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
|
SL(6)538 – Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog Iechyd
Meddwl a Llesiant. |
||
|
SL(6)557 – Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |
||
|
SL(6)565 – Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac Awdurdodau Iechyd Arbennig (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |
||
(14.50 - 14.55) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
|
Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygio Canlyniadol) 2025 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr llythyr gan y Dirprwy Brif Weinidog
ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. |
||
|
Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd grwpiau rhyngweinidogol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: |
||
|
Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Cyd-drefniant ar gyfer y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Safonau Marchnata a Chynhyrchion Organig) (Darpariaethau Trosiannol) (Diwygio) 2025 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr a’r Datganiad Ysgrifenedig:
gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a
Materion Gwledig. |
||
|
Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) ac Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2025 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr a’r Datganiad Ysgrifenedig:
gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a
Materion Gwledig. |
||
(14.55 - 15.00) |
Papurau i’w nodi |
|
|
Gohebiaeth oddi wrth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Sesiwn graffu ar y cyd gyda Gweinidogion ar gyfiawnder troseddol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a
Chyfiawnder Cymdeithasol. |
||
|
Gohebiaeth gan y Llywydd: Cynrychiolaeth ar gyrff rhyngseneddol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr a chytunwyd i ysgrifennu at y
Llywydd. |
||
|
Gohebiaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Egwyddorion Llywodraeth Cymru ar Ddeddfwriaeth y DU mewn meysydd datganoledig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Cwnsler Cyffredinol a
Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.00 - 15.15) |
Sesiwn dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ar y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth y Cwnsler Cyffredinol
a’r Gweinidog Cyflawni. |
|
(15.15 - 15.25) |
Cytundebau rhyngwladol: Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft. |
|
(15.25 - 15.55) |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig): Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol (Memorandwm Rhif 4 a Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig). Hefyd, trafododd y Pwyllgor
yr adroddiad drafft a chytunodd arno, yn amodol ar fân newidiadau, a chytunodd
i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru. |
|
(15.55 - 16.10) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tybaco a Fêps Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol a chytunwyd i drafod adroddiad drafft yn ystod y cyfarfod nesaf. |
|
(16.10 - 16.20) |
Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn Saesneg yn unig Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y mater a chytunwyd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Phwyllgor Gweithdrefnau Tŷ’r Cyffredin. |
|
(16.20 - 16.30) |
Adroddiad monitro Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad monitro a chytunodd
arno. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth i ofyn am ragor
o wybodaeth am ei rôl. |
|
(16.30 - 16.40) |
Offerynnau statudol a drafodwyd yn flaenorol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor bapur sy’n cynnwys gwybodaeth am
offerynnau statudol a drafodwyd gan y Pwyllgor yn 2024 lle mae Llywodraeth
Cymru wedi nodi y bydd yn cyflwyno offeryn diwygio i gywiro gwallau a nodwyd
gan y Pwyllgor. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru. |
|
(16.40 - 16.50) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Data (Defnydd a Mynediad) Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros yr Economi, Ynni a Chynllunio at y Llywydd. Cytunodd y Pwyllgor i wahodd
yr Ysgrifennydd Cabinet i sesiwn dystiolaeth ar y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol. |
|
(16.50 - 17.00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26: Trafod y dystiolaeth ysgrifenedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig a gafodd
gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a
Materion Gwledig a’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni. |
PDF 231 KB