Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/11/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
(11.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AS am eitemau 2 i 6
ar yr agenda. Croesawodd y Pwyllgor Carolyn Thomas AS a oedd yn
bresennol fel gwestai ar gyfer eitemau 2 i 6 ar yr agenda, gan gynrychioli
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Croesawodd y Pwyllgor hefyd Luke Fletcher AS a oedd yn
bresennol fel gwestai ar gyfer eitemau 2 i 6, gan gynrychioli Pwyllgor yr
Economi, Masnach a Materion Gwledig. |
|
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg: Sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Rebecca Evans AS,
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Claire McDonald,
Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Economaidd, Llywodraeth Cymru Jennifer Pride,
Pennaeth Cyflenwi Ynni, Llywodraeth Cymru Scott Tyler, Pennaeth
Rhaglen Ddeddfwriaethol y DU, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros yr Economi, Ynni a Chynllunio mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg. |
||
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Ynni Prydain Fawr: Sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros yr Economi, Ynni a Chynllunio mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Ynni Prydain Fawr. |
||
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitemau 5, 6, 12, 13, 14, 15 Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Ynni Prydain Fawr: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a chytunodd i drafod
adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
||
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a chytunodd i drafod
adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
||
(13.30 - 14.30) |
Sesiwn dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ar y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymu)
(Cymru), fel y’i cyflwynwyd Julie James AS, y
Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni Dylan Hughes, Y Prif Gwnsler
Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru Claire Fife, Cynghorydd Polisi i'r Cwnsler Cyffredinol a Phennaeth
y Swyddfa Codau Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol
a’r Gweinidog Cyflawni mewn perthynas â’r Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn,
Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru). |
|
(14.35 – 14.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
|
SL(6)537 - Rheoliadau Trwyddedau Triniaeth Arbennig (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Cytunodd y Pwyllgor
i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru. |
||
|
SL(6)540 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(14.40 – 14.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
|
SL(6)535 - Rheoliadau Cyllid Llywodraeth Leol (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol ac Amrywiol) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb i’r adroddiad a chytunodd i
ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru. |
||
|
SL(6)536 - Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy'n Ymwneud â Chydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad. |
||
|
SL(6)516 – Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog
Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. |
||
(14.45 – 14.50) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
|
Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) (Rhif 2) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad
Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig, a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Brif
Weinidog. |
||
|
Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Deunydd Pacio a Gwastraff Deunydd Pacio) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad
Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. |
||
|
Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Symud Nwyddau (Gogledd Iwerddon i Brydain Fawr) (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Iechyd Planhigion etc.) (Darpariaeth Ddarfodol a Diwygiadau Amrywiol) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad
Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. |
||
|
Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a
Materion Gwledig. |
||
(14.50 – 14.55) |
Papurau i'w nodi |
|
|
Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Comisiwn Annibynnol ac Adolygiad o’r Sector Dŵr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad
Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig, a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Brif
Weinidog. |
||
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol at y Llywydd: Bil Hawliau Cyflogaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol at y Llywydd. |
||
|
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Hawliau Rhentwyr Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a
Llywodraeth Leol. |
||
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor
ar y Bil Gofal Cymdeithasol (Cymru). |
||
|
Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Gwahoddiad i roi tystiolaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Prif Weinidog, a chytunodd i ysgrifennu ymateb. |
||
|
Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Gwelliant Llywodraeth y DU i’r Bil Gwasanaethau Rheilffordd i Deithwyr (Perchnogaeth Gyhoeddus) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad
Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, a
chytunodd i ysgrifennu’n ôl mewn ymateb. |
||
(14.55 – 15.15) |
Sesiwn dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ar y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, a chytunodd i
ysgrifennu i ofyn am ragor o wybodaeth. |
|
(15.15 – 15.45) |
Adroddiad blynyddol 2023/24: Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i
drafod fersiwn ddiwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(15.45 – 15.55) |
Y wybodaeth ddiweddaraf mewn cysylltiad â Charchar EF Y Parc Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am Garchar EF Y
Parc. |
|
(15.55 – 16.00) |
Gohebiaeth i Lywodraeth y DU: Diweddariad Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am ei ohebiaeth
i Lywodraeth y DU. |
PDF 302 KB