Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Hawliau Rhentwyr
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Hawliau Rhentwyr
Cyflwynwyd y Bil Hawliau Rhentwyr (y Bil)
yn Nhŷ'r Cyffredin ar 11
Medi 2024.
Mae teitl hir y
Bil yn nodi mai Bil ydyw i wneud darpariaeth o ran newid y gyfraith ynghylch
tai rhent, gan gynnwys darpariaeth o ran dileu tenantiaethau sicr cyfnod
penodol a thenantiaethau byrddaliol sicr cyfnod penodol; gosod rhwymedigaethau
ar landlordiaid ac eraill mewn perthynas â thai rhent a llety dros dro a llety
â chymorth; ac at ddibenion cysylltiedig.
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru
i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Derbyniwyd
y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Mai 2025.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Ionawr 2025
Ar 22 Ionawr
2025, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 198KB).
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm Atodol at y Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno
adroddiad arno erbyn 7 Mawrth 2025 (PDF
39KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ei adroddiad (PDF
161KB) ar 7 Mawrth 2025.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
176KB) ar 7 Mawrth 2025. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 11 Ebrill 2025 (PDF 76KB).
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Medi 2024
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron
y Senedd ar 26
Medi 2024 (PDF 188KB).
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno
adroddiad arno erbyn 29 Tachwedd 2024 (PDF
27.2KB).
Ar 5 Tachwedd 2024, cytunodd (PDF
37KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 10 Ionawr 2025.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ei adroddiad (PDF
267KB) ar 7 Ionawr 2025.
Ar 7 Ionawr 2025,
cytunodd (PDF
40.5KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 31 Ionawr 2025.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
485KB) ar 30 Ionawr 2025. Ymatebodd
(PDF 82KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 13 Mawrth 2025.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/09/2024
Dogfennau
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Rhentwyr - 25 Hydref 2024
PDF 110 KB - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Rhentwyr - 8 Tachwedd 2024
PDF 168 KB