Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/01/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(13.30 - 13.35) |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. Dogfennau ategol: |
|
SL(6)428 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2023 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
SL(6)429 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2023 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
(13.35 - 13.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
SL(6)430 - Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) (Dirymu) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)431 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)433 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Gwelliannau) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)434 - Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) (Diwygio a Darpariaeth Drosiannol) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt
adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)432 – Rheoliadau Gwin (Diwygio) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.40 - 13.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(6)419 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)436 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)427 – Rheoliadau’r Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu (Taliadau) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)426 – Rheoliadau Adeiladu (Y Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu) (Cofrestru, Sancsiynau ac Apelau) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(13.45 - 13.50) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 - trafodwyd eisoes Cofnodion: Nid oedd dim offerynnau i'w hystyried o dan yr eitem hon. |
|
(13.50 - 13.55) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad
Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru,
a’r Trefnydd. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
(13.55 - 14.00) |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. |
||
(14.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(14.00 - 14.25) |
Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru): Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i
drafod drafft arall yn ei gyfarfod nesaf. |
|
(14.25 - 14.35) |
Cytundebau rhyngwladol: Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd
arno. |
|
(14.35 - 14.45) |
Adroddiad monitro Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad monitro diweddaraf, a
chytunodd i ysgrifennu at Bwyllgor Craffu Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin
i gyfrannu gwybodaeth berthnasol at ei ymchwiliad i Ddeddf Cyfraith yr UE a
Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023. |
|
(14.45 - 15.00) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3), a chytunodd i
drafod adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf. |
|
(15.00 - 15.15) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25: Trafod gwariant arfaethedig Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru
ar gyfer 2024-25 a chytunwyd i ystyried adroddiad drafft yn ei gyfarfod ar 29
Ionawr 2024. |
|
(15.15 - 15.25) |
Ymchwiliad i Lywodraethiant y DU a’r UE: Diweddariad Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ei waith
parhaus ar Lywodraethiant y DU a’r UE a chytunodd arno. |