Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/07/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Anfonodd Huw Irranca-Davies ei ymddiheuriadau. Yn
unol â’r cynnig a dderbyniwyd yn y cyfarfod blaenorol, Alun Davies oedd y
Cadeirydd dros dro. |
|
(13.30 - 13.35) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
SL(6)365 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)363 - Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.35 - 13.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
SL(6)364 – Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(13.40 – 13.50) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Ceisiadau, Gwrthwynebiadau ac Ymchwiliadau) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Lleol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr
gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Fframwaith Windsor (Cynllun Symud Manwerthu: Iechyd y Cyhoedd, Safonau Cynnyrch Marchnata ac Organig a Darpariaethau Amrywiol) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog a chytunodd i
ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ragor o wybodaeth. |
||
(13.50 - 14.00) |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at Weinidog yr Economi: Craffu ar waith y Gweinidog Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Bwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diweddaru deddfwriaeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler
Cyffredinol. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Gweinidog Gwladol dros Dai a Chynllunio: y Bil Rhentwyr (Diwygio) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd at y Gweinidog Gwladol dros Dai a Chynllunio. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at y Llywydd: Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog at y Llywydd. |
||
(14.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(14.00 – 14.15) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 6) ar y Bil Caffael Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 6) ar y Bil Caffael a chytunodd ar ei
adroddiad drafft. |
|
(14.15 – 14.25) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ynni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Ynni a’r llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y
Llywydd. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i'w gwahodd i fod yn
bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 10 Gorffennaf i drafod materion
ymhellach. |