Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/01/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

13.30-14.30

2.

Y Bil Bwyd (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Fox AS, yr Aelod o'r Senedd sy’n gyfrifol am y Bil.

14.30 - 14.35

3.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

3.1

SL(6)312 – Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

14.35 – 14.40

4.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

4.1

SL(6)308 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 4) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

14.40 – 14.45

5.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

5.1

Gohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol.

5.2

Gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog.

5.3

Gohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Dirprwy Weinidog.

14.45 – 14.50

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Anifeiliaid ac Iechyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Planhigion ac Iechyd Planhigion (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog.

6.2

Gohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Economi: Y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog.

6.3

Gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022 a Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog.

6.4

Gohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol at y Llywydd.

14.50

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig. 

14.50 – 15.05

8.

Y Bil Bwyd (Cymru): Trafod y dystiolaeth 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd gan Peter Fox AS.

15.05 – 15.30

9.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.