Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/01/2026 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Mark Isherwood AS.

(13.30 – 13.35)

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Dogfennau ategol:

2.1

SL(6)713 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2026

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

2.2

SL(6)716 - Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Magnesiwm L-threonad monohydrad) (Cymru) 2026

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

(13.35 – 13.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(6)706 - Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Ysgolion Cynradd a Gynhelir) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.2

SL(6)707 - Rheoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.3

SL(6)708 - Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.4

SL(6)715 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.5

SL(6)704 - Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Ty Gwydr (Diwygio) 2026

Gorchymyn [Saesneg yn unig]

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.6

SL(6)714 – Rheoliadau Datganiadau Blynyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

3.7

SL(6)719 - Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.40 – 13.45)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

4.1

SL(6)711 - Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2025

Rheoliadau

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

4.2

SL(6)712 - Gorchymyn Deddf Adeiladu 1984 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2025

Gorchymyn

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

(13.45 – 13.50)

5.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd eisoes

5.1

SL(6)703 - Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Costau Ardoll Ymwelwyr) (Cymru) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

5.2

SL(6)694 - Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Symiau Trothwy) (Diwygio) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

(13.50 – 13.55)

6.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 – trafodwyd eisoes

6.1

SL(6)698 – Cod Ymarfer Treuliau Etholiadau Ymgeiswyr Unigol (Etholiadau’r Senedd) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

6.2

SL(6)699 – Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

6.3

SL(6)700 - Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Ymgyrchwyr Nad Ydynt yn Bleidiau (Etholiadau’r Senedd) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

(13.55 – 14.00)

7.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

7.1

Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y grwpiau rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor hysbysiadau gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyfarfodydd nifer o grwpiau rhyngweinidogol: Datganiad Ysgrifenedig a llythyr gan Brif Weinidog Cymru mewn perthynas â chyfarfod o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig; llythyr gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig mewn perthynas â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net a Gweinidogion Cymru; a llythyr gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig mewn perthynas â chyfarfod o'r Grŵp Rhyngweinidogol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

7.2

Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig a Darpariaeth Arbed) (Diwygio) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg.

7.3

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Rheoliadau Darparu Gwasanaethau (Diwygio a Darpariaeth Drosiannol) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio.

7.4

Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

(14.00 – 14.05)

8.

Papurau i’w nodi

8.1

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Is-ddeddfwriaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

8.2

Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Ymgynghoriad ar Newidiadau Arfaethedig i Gynlluniau Ffioedd a Thaliadau Awdurdodau Lleol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

8.3

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad at y Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau: Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad at y Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau.

8.4

Gohebiaeth gan y Gymdeithas Llety Tymor Byr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gymdeithas Llety Tymor Byr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg.

(14.05)

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(14.05 – 14.10)

10.

Y Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru): Trafod adroddiad Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau i’w cytuno y tu allan i’r Pwyllgor.

(14.10 – 14.20)

11.

Is-ddeddfwriaeth a drafodwyd eisoes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei ddadansoddiad o'r monitro parhaus o offerynnau statudol a chytunodd i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru.

(14.20 – 14.30)

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Seiberddiogelwch a Seiberwydnwch (Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm, a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.

(14.30 – 14.35)

13.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid (Rhif 2): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.

(14.35 – 14.45)

14.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Lles Plant ac Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.

(14.45 – 14.55)

15.

Adroddiad monitro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad monitro, a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ynghylch y trafodaethau parhaus rhwng y DU a'r UE.

(14.55 – 15.05)

16.

Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y briff gan Ymchwil y Senedd a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Brif Weinidog am ragor o wybodaeth.

(15.05 – 15.15)

17.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes ynghylch trefnu dadl ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol.