Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)
Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)
Bil gan
Lywodraeth Cymru, a gyflwynwyd gan Julie
James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni. Mae’r Pwyllgor
Busnes wedi trosglwyddo’r Bil i’r Pwyllgor
Bil Atebolrwydd Aelodau.
Gwybodaeth am
y Bil
Mae’r Bil yn
cynnwys darpariaeth ar gyfer y canlynol:
>>>>
>>>Gwella atebolrwydd Aelodau o’r Senedd i’r
etholwyr, darparu mecanwaith i alw Aelod etholedig yn ôl, a’i ddiswyddo o’i
swydd yn ystod ei dymor ar sail ewyllys a fynegir gan bleidleiswyr yn yr
etholaeth berthnasol.
>>>Cryfhau proses safonau'r Senedd fel y'i hystyriwyd gan y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad, gan gynnwys:
>*>*>*
***Sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad gorfodol;
***Cyflwyno elfen o annibyniaeth ac arbenigedd i'r Pwyllgor hwnnw drwy
benodi aelodau lleyg; a
***Rhoi mwy o hyblygrwydd i'r Comisiynydd Safonau ystyried yn
rhagweithiol bryderon ynghylch ymddygiad Aelodau o'r Senedd.
<*<*<*
>>>Yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth
sy'n gwahardd gwneud datganiadau ffeithiol ffug neu eu cyhoeddi. Mae hyn mewn
ymateb i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar ddichell
fwriadol.
<<<
Mae rhagor o
fanylion am y Bil i’w gweld yn y Memorandwm
Esboniadol cysylltiedig.
Cyfnod
Presennol
BillStage1
Mae’r Bil yng
Nghyfnod 1 ar hyn o bryd. Mae esboniad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Senedd ar
gael yn y Canllaw
i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.
Cofnod o daith
y Bil drwy Senedd Cymru
Mae’r tabl a
ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy’r Senedd.
¬¬¬Cyfnod 1
(Presennol)
Bydd y Pwyllgor
Bil Atebolrwydd Aelodau • Trafododd y
Pwyllgor ei ddull ar gyfer craffu yng Nghyfnod 1 ar 21 Hydref 2025.
Dyddiadau’r
Pwyllgor
Bydd y Pwyllgor Bil Atebolrwydd Aelodau yn
trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:
|
Dyddiad ac
Agenda |
Diben y
cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
|
Sesiwn
dystiolaeth gyda Chadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Cyhoeddus) Sesiwn
dystiolaeth gyda’r Comisiynydd Safonau (Cyhoeddus) |
I ddilyn |
I ddilyn |
|
|
Cadarnhad ar y
dull ar gyfer craffu yng Nghyfnod 1 (Cyhoeddus) Cynllunio
gwaith ar gyfer y dyfodol (Preifat) |
I ddilyn |
||
|
Cylch gorchwyl
y Pwyllgor (Cyhoeddus) Ystyried y
ffordd o fynd ati I wneud gwaith craffu Cyfnod 1 (Preifat) Sesiwn friffio
dechnegol (Preifat) |
Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad yn ystyried y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:
|
Dyddiad ac
Agenda |
Diben y
cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
|
Sesiwn
dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni |
I ddilyn |
I ddilyn |
Bydd y Pwyllgor Cyllid yn trafod y Bil ar y
dyddiadau a ganlyn:
|
Dyddiad ac
Agenda |
Diben y
cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
|
Sesiwn
dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni |
I ddilyn |
I ddilyn |
zzz
¬¬¬Cyflwyno’r Bil
(3 Tachwedd 2025)
>>>>
>>>Bil Senedd
Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau), fel y’i cyflwynwyd (PDF 336KB)
>>>Memorandwm
Esboniadol (PDF 1.9MB)
>>>Datganiad
y Llywydd: 3 Tachwedd 2025 (PDF 177KB)
>>>Adroddiad y
Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil – 3 Tachwedd 2025
(PDF 74KB)
<<<
zzz
Gwybodaeth
gyswllt:
Clerc: Sarah
Sargent
Ffôn: 0300 200
6565
Cyfeiriad
post:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
E-bost: SeneddBAA@senedd.cymru
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/11/2025
Ymgynghoriadau
- Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) (Rhedeg hyd 19/11/2025)