Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/01/2026 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Mark Isherwood AS.

(13.30 – 13.35)

2.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

2.1

SL(6)691 – Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

2.2

SL(6)692 - Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darparu Gwybodaeth am Newidiadau mewn Amgylchiadau) (Cymru) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

2.3

SL(6)693 - Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Disgowntiau, Diystyriadau ac Esemptiadau) (Cymru) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.35 – 13.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

3.1

SL(6)688 - Cod Trefniadaeth Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Cod a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.40 – 13.45)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 –trafodwyd eisoes

4.1

SL(6)651 – Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a'r llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Llywodraeth Leol a Thai.

4.2

SL(6)682 – Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

(13.45 – 13.50)

5.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.7 – trafodwyd eisoes

5.1

SL(6)684 – Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

(13.50 – 13.55)

6.

Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol

6.1

Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd grwpiau rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ohebiaeth gan: y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni mewn perthynas â chyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder; Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio mewn perthynas â chyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach; Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip mewn perthynas â chyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Waith a Phensiynau; ar Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig mewn perthynas â chyfarfod o’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol.

6.2

Gohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Deddf Amrywogaethau Planhigion (Diwygio) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

6.3

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 4) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg.

6.4

Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Gorchymyn Deddf Seilwaith (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio.

6.5

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig a Darpariaeth Arbed) (Diwygio) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg.

(13.55 – 14.05)

7.

Papurau i'w nodi

7.1

Gohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni at y Llywydd Offerynnau Statudol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni at y Llywydd.

7.2

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip.

7.3

Gohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Penderfyniad Gweinidogion Cymru ynghylch rhifo a dosbarthu is-ddeddfwriaeth nas gwnaed gan offeryn statudol Cymreig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

7.4

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) Llywodraeth Cymru ar y Bil Troseddu a Phlismona

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip.

7.5

Datganiad Ysgrifenedig oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Gweithredu Deddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024: ffioedd rheoli ystad rhydd-ddaliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.

7.6

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Ymatebion Llywodraeth Cymru i adroddiadau'r Pwyllgorau ar Fil Diogelwch Adeiladau (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.

7.7

Gohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Adolygiad o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

7.8

Gohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Ymatebion Llywodraeth Cymru i adroddiadau'r Pwyllgorau ar y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

7.9

Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni.

7.10

Cynulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon: Adroddiad Terfynol Cydweithrediad Amddiffyn a Diogelwch y DU a'r UE ar ôl Brexit

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan Gynulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon ar Gydweithrediad Amddiffyn a Diogelwch y DU a'r UE ar ôl Brexit.

7.11

Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

7.12

Gohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Ymatebion Llywodraeth Cymru i adroddiadau'r Pwyllgorau ar Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

7.13

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Ymatebion Llywodraeth Cymru i adroddiadau'r Pwyllgorau ar y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg.

(14.05)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(14.05 – 14.15)

9.

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes).

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau Femorandwm Rhif 3 ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) a chytunwyd i ysgrifennu at y Llywydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Busnes.

(14.15 - 14.20)

10.

Cytundebau rhyngwladol: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft.

(14.20 – 14.30)

11.

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau ar y papur Blaenraglen Waith a chytuno i wahodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, a'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, i sesiwn dystiolaeth.