Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)

Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)

Bil Aelod, a gyflwynwyd gan Mark Isherwood AS. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Mae Iaith Arwyddion Prydain (IAP) yn iaith sy’n defnyddio ystumiau, siapiau llaw, mynegiant wyneb ac iaith y corff i gyfleu ystyr ac sydd, yn ei ffurfiau cyffyrddol, hefyd yn gallu defnyddio cyffwrdd. Nod y Bil yw hyrwyddo ei defnydd yng Nghymru ac mae’n gosod dyletswyddau amrywiol newydd ar Weinidogion Cymru ac ar gyrff cyhoeddus penodol.

 

Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru am y canlynol:

>>>> 

>>>hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o IAP.

>>>cyhoeddi Strategaeth Iaith Arwyddion Prydain Genedlaethol sy’n disgrifio sut y mae’n bwriadu hybu a hwyluso’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain ac adrodd ar gynnydd.

>>>llunio canllawiau ar gyfer cyrff cyhoeddus a restrir yn y Bil ar sut i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o IAP.

>>>penodi cynghorydd IAP a phanel i gynorthwyo’r cynghorydd.

<<<< 

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.

 

Y Cyfnod Presennol

 

BillStage2

 

Mae’r Bil yng Nghyfnod 2 ar hyn o bryd. Mae esboniad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Senedd ar gael yn y Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Senedd Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy’r Senedd.

 

¬¬¬Cyfnod 2, Pwyllgor yn trafod y gwelliannau (Presennol)

Dechreuodd Cyfnod 2 ar 18 Rhagfyr 2025.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw pum niwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod pan fyddant yn cael eu hystyried.

 

Bydd ystyriaethau Cyfnod 2 yn digwydd yn y pwyllgor ar 26 Ionawr 2026.

 

zzz

¬¬¬Penderfyniad Ariannol (17 Rhagfyr 2025)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, mae’r Llywydd wedi nodi bod angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Mae rhagor o wybodaeth am benderfyniadau ariannol ar gael yn y Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus (PDF 278KB).

zzz

¬¬¬Cyfnod 1 (14 Gorffenaf 2025 – 17 Rhagfyr 2025)

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Rhagfyr 2025. Cytunwyd ar y cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Gellir gwylio'r ddadl ar Senedd TV, lle mae is-deitlau Iaith Arwyddion Prydain ar gael. 

 

Canlyniad dadl ar Fil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn (BSL, YouTube)

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/7thmuAPT2x0?si=zOcnJfULrDzB_PsA

 

Crynodeb BSL o adroddiadau Cyfnod 1 Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) (YouTube)

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/l5zz-M7rEFw?si=-NTWy64qhaQJP6Q

 

Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn trafod ei ddull o ymdrin â gwaith Cyfnod 1 ar 21 Gorffennaf 2025.

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.tv

15 Medi 2025

Sesiwn dystiolaeth gyda Mark Isherwood AS, yr Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

22 Medi 2025

Sesiwn dystiolaeth gyda phanel o academyddion

 

Sesiwn dystiolaeth gyda phanel o sefydliadau pobl Fyddar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

29 Medi 2025

Sesiwn dystiolaeth gyda phanel o blant a phobl ifanc Fyddar

 

Sesiwn dystiolaeth gyda phanel academaidd (gyda ffocws ar hawliau cyfreithiol ac ieithyddol)

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

6 Hydref 2025

Sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau anabledd a phanel pobl hŷn

 

Sesiwn dystiolaeth gyda phanel o gyrff iechyd sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

13 Hydref 2025

Sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

 

Sesiwn dystiolaeth gyda phanel o Awdurdodau Lleol

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

20 Hydref 2025

Sesiwn dystiolaeth gyda Mark Isherwood AS, yr Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Paratowyd crynodeb o ganfyddiadau’r gwaith ymgysylltu ar 20 Hydref 2025.

Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu (Fersiwn Iaith Arwyddion Prydain, YouTube)

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/2x2Yy8dBUoI?si=IWoQX34fXJily05V

 

Cyhoeddodd Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (PDF 2.3MB) ar 5 Rhagfyr 2025.

 

Ymatebodd (PDF 139KB) Mark Isherwood AS i’r adroddiad ar 12 Rhagfyr 2025.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor ar 15 Rhagfyr 2025.

 

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/A8Kj-Cq8v3g?si=2uQYcIdpqS0hw-kH

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor (fersiwn Iaith Arwyddion Prydain, YouTube)

 

Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.tv

6 Hydref 2025

Sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

13 Hydref 2025

Sesiwn dystiolaeth gyda Mark Isherwood AS, yr Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 1.7MB) ar 4 Rhagfyr 2025.

 

Ymatebodd (PDF 139KB) Mark Isherwood AS i’r adroddiad ar 10 Rhagfyr 2025.

 

Ymatebodd (PDF 206KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 15 Rhagfyr 2025.

 

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.tv

18 Medi 2025

Sesiwn dystiolaeth -Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

 

 

Trawsgrifiad

 

 

Gweld y cyfrafod

24 Medi 2025

Sesiwn dystiolaeth – Mark Isherwood AS - yr Aelod cyfrifol

 

 

Trawsgrifiad

 

 

Gweld y cyfrafod

 

Papur tystiolaeth Llywodraeth Cymru ynghylch costau'r Bil

 

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/TthgYRda3ho?si=2n__mSjdv4SL_gn-

Papur tystiolaeth Llywodraeth Cymru ynghylch costau'r Bil (fersiwn Iaith Arwyddion Prydain, YouTube)

 

Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad ar 10 Tachwedd 2025 (PDF 395 KB).

 

Caffod y Pwyllgor ymateb gan Mark Isherwood AS, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, ar 27 Tachwedd 2025.

 

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 28 Tachwedd 2025 (PDF 136 KB), ac mae wedi darparu fersiwn BSL (YouTube).

 

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/L_y0LC4NAT8?si=3sm0QUWMOGYPhDTw

zzz

¬¬¬Cyflwynwyd y Bil (14 Gorffenaf 2025)

 

Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol

 

Crynodeb o’r Bil

 

Geirfa Ddwyieithog

 

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/bzUcW6wkqHI?si=TbyGN3DL8ckOMv0g

 

Datganiad y Llywydd

 

Datganiad o Fwriad y Polisi

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil

 

zzz

 

Gwybodaeth gyswllt

Clerc: Rhys Morgan

Ffôn: 0300 200 6565

 

Cyfeiriad post:

Senedd Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1SN

 

E-bost: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Cyfnod 1

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/07/2025

Prif Aelod: Mark Isherwood AS

Dogfennau

Ymgynghoriadau