Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 109(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 07/12/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-4 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 7 ac 8 gan y
Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y
Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.18 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i
gilydd. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler
Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.09 Gofynnwyd
y 4 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 1 a 2 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Heledd
Fychan (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddata cyfrifiad
2021 am sgiliau Cymraeg sy’n dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru
wedi gostwng am yr ail ddegawd yn olynol? Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Laura
Anne Jones (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd
mewn achosion o grŵp A streptococcus mewn ysgolion? Rhun
ap Iorwerth (Ynys Mon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymateb y
Llywodraeth i fygythiadau o weithredu diwydiannol ar draws GIG Cymru, ac ar ei
chynlluniau i geisio osgoi'r fath o weithredu drwy negodi? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.21 Atebwyd
gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg Heledd Fychan
(Canol De Cymru):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddata cyfrifiad 2021 am sgiliau Cymraeg sy’n
dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng am yr ail ddegawd
yn olynol? Atebwyd
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Laura Anne
Jones (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd
mewn achosion o grŵp A streptococcus mewn ysgolion? Rhun ap
Iorwerth (Ynys Mon):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymateb y Llywodraeth i fygythiadau o
weithredu diwydiannol ar draws GIG Cymru, ac ar ei chynlluniau i geisio osgoi'r
fath o weithredu drwy negodi? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.56 Gwnaeth
Jayne Bryant ddatganiad am - Bu farw Peter Baldwin yn 13 oed oherwydd
cymhlethdodau o ganlyniad i'w ddiabetes yn cael diagnosis yn rhy hwyr. Byddai
Peter Baldwin wedi troi’n 21 oed ym mis Rhagfyr eleni. Cynhaliwyd digwyddiad yn
y Senedd ddydd Mawrth 6 Rhagfyr fel rhan o etifeddiaeth Peter. Gwnaeth
Cefin Campbell ddatganiad am - Radio Glangwili, a fydd yn dathlu 50 mlynedd ers
ei sefydlu ar ddiwrnod Nadolig eleni. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) NDM8093 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig am
Fil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain
(BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau yn BSL. 2. Yn nodi mai pwrpas
y Bil fyddai: a) cael gwared ar y
rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg, iechyd,
gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle; b) cryfhau saith nod
llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y modd y maent
yn ymwneud â BSL; c) gweithio tuag at
sicrhau nad yw pobl fyddar sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol
na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg; d) sicrhau bod gan
gymunedau byddar lais wrth ddylunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn
diwallu eu hanghenion; e) sefydlu Comisiynydd
BSL a fydd yn: (i) llunio safonau
BSL; (ii) sefydlu panel
cynghori BSL; (iii) llunio adroddiadau
bob pum mlynedd yn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL yn y cyfnod hwnnw; (iv) darparu arweiniad
a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL yn eu priod barthau; f) sefydlu gweithdrefn
ar gyfer ymchwilio i gwynion; g) ei gwneud yn
ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd ar eu cynnydd o ran hyrwyddo a hwyluso BSL
drwy eu cylch cofnodi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015; h)
rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol
BSL sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i
hyrwyddo'r defnydd o BSL. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.00 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8093 Mark Isherwood
(Gogledd Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig am Fil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog
defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella
mynediad at addysg a gwasanaethau yn BSL. 2.
Yn nodi mai pwrpas y Bil fyddai: a)
cael gwared ar y rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg,
iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle; b)
cryfhau saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
yn y modd y maent yn ymwneud â BSL; c)
gweithio tuag at sicrhau nad yw pobl fyddar sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin
yn llai ffafriol na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg; d)
sicrhau bod gan gymunedau byddar lais wrth ddylunio a darparu gwasanaethau i
sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion; e)
sefydlu Comisiynydd BSL a fydd yn: (i)
llunio safonau BSL; (ii)
sefydlu panel cynghori BSL; (iii)
llunio adroddiadau bob pum mlynedd yn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL yn
y cyfnod hwnnw; (iv)
darparu arweiniad a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL yn eu
priod barthau; f)
sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion; g)
ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd ar eu cynnydd o ran hyrwyddo a
hwyluso BSL drwy eu cylch cofnodi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
2015; h)
rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol
BSL sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i
hyrwyddo'r defnydd o BSL. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - Cyfraith Mark Allen: Diogelwch dŵr ac atal boddi NDM8157 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Deisebau, ‘Cyfraith Mark Allen Diogelwch dŵr ac atal boddi', a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 2 Awst 2022. Noder: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd
2022. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.25 NDM8157 Jack Sargeant (Alun a Glannau
Dyfrdwy) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Cyfraith Mark Allen Diogelwch dŵr ac
atal boddi', a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 2 Awst 2022. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth
Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith - Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd NDM8158 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad ar weithrediad y
mesurau interim diogelu'r amgylchedd’, a osodwyd ar 28
Medi 2022. Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd
2022. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.56 NDM8158 Llyr Gruffydd (Gogledd
Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad
ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd’, a osodwyd ar
28 Medi 2022. Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2022. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Am 17.30, gwnaeth y Llywydd
ddatganiad am yr effaith a gaiff amserlennu dwy ddadl 30 munud ar yr amser a
ddyrennir i gyfraniadau fesul Aelod. Dywedodd y bydd y Pwyllgor Busnes yn
ystyried amseroedd siarad mewn perthynas
â hyd dadl ac a yw defnyddio dadleuon 30 munud yn rhoi digon o amser i’r Senedd
ystyried rhai pynciau penodol. |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant NDM8160 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol
plant yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: Yn
cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol plant
heb fod angen adolygiad annibynnol a fyddai'n cymryd adnoddau gwerthfawr ac yn
tarfu ar y gwaith rhagorol a wneir gan y rhai sy’n darparu gwasanaethau i blant
agored i niwed, eu rhieni a'u gofalwyr. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.31 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8160 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sefydlu adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant yng Nghymru.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig.
Felly, gwrthodwyd y cynnig. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: Yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gofal
cymdeithasol plant heb fod angen adolygiad annibynnol a fyddai'n cymryd
adnoddau gwerthfawr ac yn tarfu ar y gwaith rhagorol a wneir gan y rhai sy’n
darparu gwasanaethau i blant agored i niwed, eu rhieni a'u gofalwyr. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8160 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: Yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio
gofal cymdeithasol plant heb fod angen adolygiad annibynnol a fyddai'n cymryd
adnoddau gwerthfawr ac yn tarfu ar y gwaith rhagorol a wneir gan y rhai sy’n
darparu gwasanaethau i blant agored i niwed, eu rhieni a'u gofalwyr.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar NDM8161 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y pryderon difrifol a fynegwyd gan
ddarparwyr llety hunanddarpar ledled Cymru ynghylch y cyfnod asesu ar
gyfer penderfynu ar gymhwystra ar gyfer cymhwyso ar gyfer ardrethi busnes yn
2022-2023, a diwygio'r rheoliadau yn unol â hynny. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod: a) bod Llywodraeth
Cymru wedi ymgynghori’n eang ynghylch newidiadau i’r meini prawf a ddefnyddir i
gategoreiddio llety hunanddarpar fel eiddo annomestig at ddibenion treth lleol,
a fydd yn dod i rym o fis Ebrill 2023. b) na chaiff
cydymffurfiaeth â’r meini prawf newydd ei hasesu tan ar ôl 1 Ebrill 2023. c) bod y newidiadau
hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi cymunedau
lleol llewyrchus, lle y gall pobl fforddio byw a gweithio gydol y flwyddyn. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon) Dileu popeth a
rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y
pryderon a fynegwyd gan ddarparwyr llety hunanddarpar, sydd dan bwysau o
ganlyniad i blatfformau fel AirBnB. 2.
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gynnal argymhellion yr ymgynghoriad
diweddar i sicrhau y gellir gwahaniaethu rhwng llety hunanddarpar gwirioneddol ac
eiddo domestig o safbwynt trethi lleol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.04 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8161 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ystyried y pryderon difrifol a fynegwyd gan ddarparwyr llety
hunanddarpar ledled Cymru ynghylch y cyfnod asesu ar gyfer penderfynu ar
gymhwystra ar gyfer cymhwyso ar gyfer ardrethi busnes yn 2022-2023, a diwygio'r
rheoliadau yn unol â hynny.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod: a) bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n eang ynghylch
newidiadau i’r meini prawf a ddefnyddir i gategoreiddio llety hunanddarpar fel
eiddo annomestig at ddibenion treth lleol, a fydd yn dod i rym o fis Ebrill
2023. b) na chaiff cydymffurfiaeth â’r meini prawf newydd
ei hasesu tan ar ôl 1 Ebrill 2023. c) bod y newidiadau hyn yn rhan o becyn ehangach o
fesurau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol llewyrchus, lle y gall
pobl fforddio byw a gweithio gydol y flwyddyn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd
gwelliant 2 ei ddad-ddethol Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8161 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod: a) bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n eang ynghylch
newidiadau i’r meini prawf a ddefnyddir i gategoreiddio llety hunanddarpar fel
eiddo annomestig at ddibenion treth lleol, a fydd yn dod i rym o fis Ebrill
2023. b) na chaiff cydymffurfiaeth â’r meini prawf newydd
ei hasesu tan ar ôl 1 Ebrill 2023. c) bod y newidiadau hyn yn rhan o becyn ehangach o
fesurau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol llewyrchus, lle y gall
pobl fforddio byw a gweithio gydol y flwyddyn.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.25 |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8159 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Breuddwydion
atomig: pŵer niwclear a ffydd ddall mewn technoleg sy'n heneiddio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.30 NDM8159 Mabon ap Gwynfor
(Dwyfor Meirionnydd) Breuddwydion atomig:
pŵer niwclear a ffydd ddall mewn technoleg sy'n heneiddio |
|||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |