Cwestiynau Amserol
Mae 20 munud ar gael i Aelodau ofyn Cwestiynau Amserol i'r Prif Weinidog,
Gweinidogion neu'r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiynau llafar ddydd Mercher
bob wythnos y mae'r Senedd yn eistedd mewn Cyfarfod Llawn.
Rhaid i Gwestiynau Amserol
ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n
ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.
Caiff Aelodau gyflwyno
Cwestiynau Amserol rhwng 9.00 ar ddydd Llun a 10.00 ar ddydd Mercher, a dim ond
un Cwestiwn Amserol y caiff pob Aelod ei gyflwyno mewn unrhyw wythnos yn ystod
y tymor.
Caiff cwestiynau eu dethol yn ôl disgresiwn y Llywydd. Cyhoeddir yr atebion i’r
cwestiynau ar wefan y Cofnod o fewn 24 awr iddynt gael eu
gofyn.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/08/2022