NDM8161 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar
NDM8161 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ystyried y pryderon difrifol a fynegwyd gan ddarparwyr
llety hunanddarpar ledled Cymru ynghylch y cyfnod asesu ar gyfer
penderfynu ar gymhwystra ar gyfer cymhwyso ar gyfer ardrethi busnes yn
2022-2023, a diwygio'r rheoliadau yn unol â hynny.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod:
a) bod Llywodraeth
Cymru wedi ymgynghori’n eang ynghylch newidiadau i’r meini prawf a ddefnyddir i
gategoreiddio llety hunanddarpar fel eiddo annomestig at ddibenion treth lleol,
a fydd yn dod i rym o fis Ebrill 2023.
b) na chaiff
cydymffurfiaeth â’r meini prawf newydd ei hasesu hyd ar ôl 1 Ebrill 2023.
c) bod newidiadau
hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi
cymunedau lleol llewyrchus, lle y gall pobl fforddio byw a gweithio gydol y
flwyddyn.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu popeth a
rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y
pryderon a fynegwyd gan ddarparwyr llety hunanddarpar, sydd dan bwysau o
ganlyniad i blatfformau fel AirBnB.
2.
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gynnal argymhellion yr ymgynghoriad
diweddar i sicrhau y gellir gwahaniaethu rhwng llety hunan-arlwyo
gwirioneddol ac eiddo domestig o safbwynt trethi lleol.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/12/2022