NDM8160 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant
NDM8160 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sefydlu adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant yng
Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn
cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol plant
heb fod angen adolygiad annibynnol a fyddai'n cymryd adnoddau gwerthfawr ac yn
tarfu ar y gwaith rhagorol a wneir gan y rhai sy’n darparu gwasanaethau i blant
agored i niwed, eu rhieni a'u gofalwyr.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/12/2022