NDM8093 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
NDM8093 Mark Isherwood (Gogledd
Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig am
Fil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion
Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau yn
BSL.
2. Yn nodi mai pwrpas
y Bil fyddai:
a) cael gwared ar y
rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg, iechyd,
gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle;
b) cryfhau saith nod
llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y modd y maent yn
ymwneud â BSL;
c) gweithio tuag at
sicrhau nad yw pobl fyddar sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol
na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg;
d) sicrhau bod gan
gymunedau byddar lais wrth ddylunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn
diwallu eu hanghenion;
e) sefydlu Comisiynydd
BSL a fydd yn:
(i) llunio safonau
BSL;
(ii) sefydlu panel
cynghori BSL;
(iii) llunio
adroddiadau bob pum mlynedd yn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL yn y
cyfnod hwnnw;
(iv) darparu arweiniad
a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL yn eu priod barthau;
f) sefydlu gweithdrefn
ar gyfer ymchwilio i gwynion;
g) ei gwneud yn
ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd ar eu cynnydd o ran hyrwyddo a hwyluso BSL
drwy eu cylch cofnodi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
h) rhoi dyletswydd ar
Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol BSL sy'n disgrifio'r
hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/12/2022