Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 281 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/05/2025 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1 a 3-8. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 9. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 3.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.16

Gofynnwyd cwestiynau 1 a 3-9. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 3.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Rhun Ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr effaith y bydd yr oedi i gam 2 gwaith atgyweirio Pont Menai yn ei chael ar Ynys Môn?

I ofyn i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig  

Rhys Ab Owen (Canol De Cymru): Pa fesurau sy'n cael eu trafod rhwng Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru i wella diogelwch yr amgylchedd tra'n sicrhau bod biliau dŵr yn darparu gwir werth am arian i ddefnyddwyr?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.12

Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr effaith y bydd yr oedi i gam 2 gwaith atgyweirio Pont Menai yn ei chael ar Ynys Môn?

Atebwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Rhys ab Owen (Canol De Cymru): Pa fesurau sy'n cael eu trafod rhwng Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru i wella diogelwch yr amgylchedd tra'n sicrhau bod biliau dŵr yn darparu gwir werth am arian i ddefnyddwyr?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.46

Gwnaeth Carolyn Thomas ddatganiad ar am - Diwrnod Rhyngwladol Bioamrywiaeth (22 Mai).

Gwnaeth John Griffiths ddatganiad am -  Wythnos Gweithredu dros Anafiadau i’r Ymennydd (19-25 Mai)

Gwnaeth Rhys ab Owen ddatganiad am -  Nodi marwolaeth Michael Jones a’i gyfraniad i Addysg (16 Mai).

(60 munud)

5.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned

NDM8903 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mawrth 2025.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2025.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.52

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2024

NDM8904 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: ‘Cysylltiadau Rhyngwladol Adroddiad Blynyddol 2024’ a 
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mawrth 2025.

Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2025.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.29

NDM8904 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) 

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: ‘Cysylltiadau Rhyngwladol Adroddiad Blynyddol 2024’ aosodwydyn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mawrth 2025. 

Sylwer:Gosodwydymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2025. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru - Pensiynau

NDM8906 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r anghyfiawnderau pensiwn sylweddol a hirsefydlog o ganlyniad i ddiffyg gweithredu gan Lywodraethau olynol y DU.
2. Yn cydnabod gwaith grwpiau ymgyrchu megis menywod y 1950au, cyn-weithwyr Allied Steel and Wire a chyn-aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain.
3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Lafur y DU i:
a) gweithredu ar ymrwymiad blaenorol gan y blaid Lafur i unioni’r cam a wnaed i fenywod a anwyd yn y 1950au yng Nghymru ac y mae newidiadau i bensiwn y wladwriaeth wedi effeithio arnynt;
b) uwchraddio pensiynau cyn-weithwyr Allied Steel and Wire yn ôl chwyddiant; ac
c) trin aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain a chynllun pensiwn y glowyr yn gyfartal.
4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno'r achos dros weithredu ar y materion hyn er gwaethaf ei phartneriaeth mewn pŵer, ac yn galw arni i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU i:

a) gweithredu argymhellion Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd i fenywod y 1950au;
b) uwchraddio pensiynau cyn-weithwyr Allied Steel and Wire yn unol â chwyddiant; ac
c) estyn Cynllun Pensiwn y Glowyr i gynnwys aelodau Cynllun Pensiwn Staff Glo Prydain.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: 

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)  

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn croesawu'r diwygiadau diweddar a wnaed gan Lywodraeth y DU i Gynllun Pensiwn y Glowyr, gan gynnwys gweld y gronfa fuddsoddi wrth gefn yn dychwelyd a'r cynnydd o ganlyniad i daliadau pensiwn cyn-lowyr.
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon yn gyson am anghyfiawnderau pensiwn gyda Llywodraethau olynol y DU, a’i bod yn parhau i eirioli ar ran:
a) pensiynwyr Allied Steel and Wire;
b) menywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth wedi effeithio arnynt; ac
c) aelodau o gynllun pensiwn staff Glo Prydain.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.12

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8906 Heledd Fychan (Canol De Cymru) 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi'r anghyfiawnderau pensiwn sylweddol a hirsefydlog o ganlyniad i ddiffyg gweithredu gan Lywodraethau olynol y DU. 

2. Yn cydnabodgwaith grwpiau ymgyrchu megis menywod y 1950au, cyn-weithwyr Allied Steel and Wire a chyn-aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain. 

3. Yn gresynuat fethiant Llywodraeth Lafur y DU i: 

a) gweithredu ar ymrwymiad blaenorol gan y blaid Lafur i unioni’r cam a wnaed i fenywod a anwyd yn y 1950au yng Nghymru ac y mae newidiadau i bensiwn y wladwriaeth wedi effeithio arnynt; 

b) uwchraddio pensiynau cyn-weithwyr Allied Steel and Wire yn ôl chwyddiant; ac 

c) trin aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain a chynllun pensiwn y glowyr yn gyfartal. 

4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno'r achos dros weithredu ar y materion hyn er gwaethaf ei phartneriaeth mewn pŵer, ac yn galw arni i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU i: 

a) gweithredu argymhellion Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd i fenywod y 1950au; 
b) uwchraddio pensiynau cyn-weithwyr Allied Steel and Wire yn unol â chwyddiant; ac 

c) estyn Cynllun Pensiwn y Glowyr i gynnwys aelodau Cynllun Pensiwn Staff Glo Prydain. 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

12

24

47

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)   

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle: 

Yn croesawu'r diwygiadau diweddar a wnaed gan Lywodraeth y DU i Gynllun Pensiwn y Glowyr, gan gynnwys gweld y gronfa fuddsoddi wrth gefn yn dychwelyd a'r cynnydd o ganlyniad i daliadau pensiwn cyn-lowyr. 

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon yn gyson am anghyfiawnderau pensiwn gyda Llywodraethau olynol y DU, a’i bod yn parhau i eirioli ar ran: 

a) pensiynwyr Allied Steel and Wire; 

b) menywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth wedi effeithio arnynt; ac 

c) aelodau o gynllun pensiwn staff Glo Prydain. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

23

47

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi'r anghyfiawnderau pensiwn sylweddol a hirsefydlog o ganlyniad i ddiffyg gweithredu gan Lywodraethau olynol y DU. 

2. Yn cydnabodgwaith grwpiau ymgyrchu megis menywod y 1950au, cyn-weithwyr Allied Steel and Wire a chyn-aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain. 

3. Yn croesawu'r diwygiadau diweddar a wnaed gan Lywodraeth y DU i Gynllun Pensiwn y Glowyr, gan gynnwys gweld y gronfa fuddsoddi wrth gefn yn dychwelyd a'r cynnydd o ganlyniad i daliadau pensiwn cyn-lowyr.

4. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon yn gyson am anghyfiawnderau pensiwn gyda Llywodraethau olynol y DU, a’i bod yn parhau i eirioli ar ran:

a) pensiynwyr Allied Steel and Wire;

b) menywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth wedi effeithio arnynt; ac

c) aelodau o gynllun pensiwn staff Glo Prydain.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

23

47

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.00

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM8905 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cymru ac Ewrop: chwalu'r rhwystrau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.03

NDM8905 Mick Antoniw (Pontypridd) 

Cymru ac Ewrop: chwalu'r rhwystrau