Pobl y Senedd

John Griffiths AS

John Griffiths AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Dwyrain Casnewydd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn Nwyrain Casnewydd?

Wedi'i gyflwyno ar 07/03/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn ystod yr argyfwng costau byw?

Wedi'i gyflwyno ar 28/02/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol i ddatblygu eu hymgysylltiad â chymunedau lleol a'u grymuso?

Wedi'i gyflwyno ar 21/02/2024

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y cynllun lles anifeiliaid i Gymru?

Wedi'i gyflwyno ar 21/02/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ei pholisïau ar addysg blynyddoedd cynnar?

Wedi'i gyflwyno ar 14/02/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ei pholisïau ar gyfer gwyrddu ardaloedd trefol?

Wedi'i gyflwyno ar 14/02/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: John Griffiths AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Ganed John Griffiths yng Nghasnewydd, mae ganddo radd yn y Gyfraith a diploma mewn Seicoleg gan Brifysgol Cymru, Caerdydd.

Cefndir proffesiynol

Bu John yn gweithio fel darlithydd Addysg Bellach ac Uwch cyn dod yn gyfreithiwr, cyn iddo gael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 1999.

Hanes gwleidyddol

Mae John wedi gwasanaethu fel cynghorydd yng Nghyngor Sir Gwent a Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys datblygu economaidd, cynhwysiant cymdeithasol, addysg, Ewrop, chwaraeon ac Affrica Is-Sahara.

Mae John wedi gwasanaethu’n flaenorol fel y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon; y Gweinidog Cyfoeth Naturiol; a Gweinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn Llywodraeth Cymru, a chyn hynny bu'n gwasanaethu fel Cwnsler Cyffredinol;  Dirprwy Weinidog Addysg; Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Dirprwy Weinidog Datblygu Economaidd.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 07/05/1999 - 30/04/2003
  2. 02/05/2003 - 02/05/2007
  3. 04/05/2007 - 31/03/2011
  4. 06/05/2011 - 05/04/2016
  5. 06/05/2016 - 28/04/2021
  6. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: John Griffiths AS