NDM8906 Dadl Plaid Cymru - Pensiynau

NDM8906 Dadl Plaid Cymru - Pensiynau

NDM8906 Heledd Fychan (Canol De Cymru) 
Cynnig bod y Senedd: 
1. Yn nodi'r anghyfiawnderau pensiwn sylweddol a hirsefydlog o ganlyniad i ddiffyg gweithredu gan Lywodraethau olynol y DU. 
2. Yn cydnabod
gwaith grwpiau ymgyrchu megis menywod y 1950au, cyn-weithwyr Allied Steel and Wire a chyn-aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain. 
3. Yn gresynu
at fethiant Llywodraeth Lafur y DU i: 
a) gweithredu ar ymrwymiad blaenorol gan y blaid Lafur i unioni’r cam a wnaed i fenywod a anwyd yn y 1950au yng Nghymru ac y mae newidiadau i bensiwn y wladwriaeth wedi effeithio arnynt; 
b) uwchraddio pensiynau cyn-weithwyr Allied Steel and Wire yn ôl chwyddiant; ac 
c) trin aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain a chynllun pensiwn y glowyr yn gyfartal. 
4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno'r achos dros weithredu ar y materion hyn er gwaethaf ei phartneriaeth mewn pŵer, ac yn galw arni i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU i: 

a) gweithredu argymhellion Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd i fenywod y 1950au; 
b) uwchraddio pensiynau cyn-weithwyr Allied Steel and Wire yn unol â chwyddiant; ac 
c) estyn Cynllun Pensiwn y Glowyr i gynnwys aelodau Cynllun Pensiwn Staff Glo Prydain. 

 

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/05/2025