Pobl y Senedd

Delyth Jewell AS

Delyth Jewell AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Dwyrain De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi i'r corff anghywir gael ei ryddhau i deulu mewn profedigaeth o gorffdy ysbyty yn Ysbyty...

Wedi'i gyflwyno ar 13/03/2024

Mae'r Senedd hon: 1. Yn croesawu'r camau gan Gyngor Mynydda Prydain i ddiogelu Craig Sirhywi drwy roi cynnig i brynu'r safle ar ran y gymuned ddringo. 2. Yn nodi'r canlynol: a) Mae...

I'w drafod ar 12/03/2024

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi’u cael â’r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith y Mesur Teithio gan Ddysgwyr?

Wedi'i gyflwyno ar 06/03/2024

Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu bod:  a) casgliadau cenedlaethol Cymru, sydd o dan ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, yn berchen i bawb yng Nghymru;b) angen diogelu'...

I'w drafod ar 04/03/2024

A wnaiff y Gweinidog amlinellu enghreifftiau o gydweithio perthnasol rhwng awdurdodau lleol a grwpiau ynni cymunedol sydd wedi digwydd o ganlyniad i gyfuno cefnogaeth i’r ddau faes drwy W...

Wedi'i gyflwyno ar 27/02/2024

A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu cyfarfodydd ‘COP Cymru’ blynyddol i asesu'r argyfwng hinsawdd cyfredol, i ystyried yr ymatebion sydd wedi bod a'r ymatebion sydd eu hangen er m...

Wedi'i gyflwyno ar 27/02/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Delyth Jewell AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Ganed Delyth Jewell yng Nghaerffili, tyfodd i fyny yn Ystrad Mynach, ac aeth i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ym Margoed, cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, lle graddiodd mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg a Gradd Meistr mewn Astudiaethau Celtaidd.

Cefndir proffesiynol

Ar ôl graddio o’r Brifysgol, gweithiodd Delyth fel ymchwilydd ac ysgrifennwr areithiau i Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan o dan arweinyddiaeth Elfyn Llwyd AS.  Yn 2014, enillodd Wobr Ymchwilydd y Flwyddyn am ei gwaith yn braenaru’r tir ar gyfer deddfwriaeth ar  stelcio a thrais domestig.  Yn ddiweddarach, gweithiodd i Gyngor ar Bopeth ac Action Aid.

Hanes gwleidyddol

Yn 2019, tyngodd Delyth lw fel Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, yn dilyn marwolaeth Steffan Lewis, ac fe’i henwyd yn llefarydd ei phlaid ar Brexit a Materion Allanol.  Yn 2021, ail-etholwyd Delyth yn Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, ac mae wedi cael ei phenodi yn llefarydd ei phlaid ar newid hinsawdd, trafnidiaeth ac ynni.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/02/2019 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Delyth Jewell AS