Ymchwiliad i rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned

Ymchwiliad i rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned

Inquiry4

 

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi cyhoeddi ei adroddiad ar rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau cymuned a thref, ar 5 Mawrth 2025. (PDF 1,526 KB)

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r adroddiad – 14 Mai 2025 (PDF 150KB).

 

Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned

 

Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad yw archwilio:

>>>> 

>>>Rôl a gwerth cynghorau cymuned a thref yng Nghymru;

>>>A yw'r sector yn addas i’r diben mewn tirwedd llywodraeth leol sy'n esblygu;

>>>Trefniadau llywodraethu a chraffu a'u heffaith ar atebolrwydd a thryloywder;

>>>Capasiti technoleg ddigidol a thechnoleg newydd i wella prosesau gwneud penderfyniadau, darparu gwasanaethau ac annog cyfranogiad mewn prosesau democrataidd lleol; a

>>>Sut y mae pwerau a chyfrifoldebau newydd ar gyfer yr haen hon o lywodraeth yn cael eu defnyddio i gefnogi cymunedau.

<<< 

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/07/2024

Papurau cefndir

Ymgynghoriadau