Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/09/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriad gan Adam Price AC. |
|
(14.30 - 15.00) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nodwyd
y papurau yn amodol ar y camau canlynol: ·
Cytunodd y
Pwyllgor i ohirio'r diweddariad nesaf a drefnwyd ar Wasanaethau Radioleg tan
ddiwedd 2019; ·
Cytunodd y
Pwyllgor i ohirio'r diweddariad terfynol ar Ddiogelwch Cymunedol yng Nghymru
tan dymor y gwanwyn 2020, ar ôl i'r rhaglen ddod i ben ym mis Mawrth 2020; ·
Gofynnodd
y Pwyllgor eu bod yn gofyn am eglurhad ar rôl y Cyfarwyddwr Trosiant ym Mwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a ·
Bydd y
Pwyllgor yn ymateb i'r llythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. |
|
Cyfoeth Naturiol Cymru: llythyr gan Brif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (11 Gorffennaf 2019) Dogfennau ategol: |
||
Gwasanaethau radioleg – adroddiad cryno cenedlaethol: y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru (Gorffennaf 2019) Dogfennau ategol: |
||
Gwaith craffu ar Gyfrifon 2017-18: llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (16 Gorffennaf 2019) Dogfennau ategol: |
||
Adroddiadau'r Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol: 2017-18 a 2018-19 Dogfennau ategol: |
||
Diogelwch Cymunedol yng Nghymru: Diweddariad gan Lywodraeth Cymru (Mehefin 2019) Dogfennau ategol: |
||
Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Llythyrau gan Lywodraeth Cymru (5 a 20 Awst 2019), Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (16 Awst 2019) a gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (29 Awst 2019) Dogfennau ategol:
|
||
Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Llythyr gan y Prif Weinidog (5 Awst 2019) Dogfennau ategol: |
||
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Llythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol (9 Awst 2019) Dogfennau ategol: |
||
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 4, 5 & 6 Cofnodion: 3.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.00 - 15.20) |
Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Gohebiaeth y Pwyllgor PAC(5)-21-19 PTN 13 Llythyr gan Fanc Datblygu Cymru (31
Gorffennaf 2019) PAC(5)-21-19 PTN 14 – Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru
(31 Gorffennaf 2019) PAC(5)-21-19 PTN 14a – Swm, math a diben cymorth ariannol
Llywodraeth Cymru (p’un a oedd yn uniongyrchol neu drwy Cyllid Cymru neu’r Banc
Datblygu), yr oedd unrhyw un o’r cwmnïau a enwyd yn y sesiwn (yng Nghofnod y
Trafodion 289-291) wedi’i gael cyn iddynt fynd i ddwylo’r gweinyddwyr a
chadarnhad o unrhyw ddyledion a oedd yn weddill (G M Jones, Cuddy Group,
Jistcourt, GRH Food Company) PAC(5)-21-19 PTN 14b – Cronfa Gwyddorau Bywyd Cymru, a
rôl Banc Datblygu Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at
Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach ar nifer o faterion. Ar ôl ei
dderbyn, bydd y Pwyllgor yn paratoi ei adroddiad drafft. |
|
(15.20-15.30) |
Effeithiolrwydd awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru: adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-21-19
Papur 1 – adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Fe
wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru briffio'r Aelodau ar yr adroddiad hwn. 5.2 Cytunodd
yr Aelodau i gynnal ymchwiliad i effeithiolrwydd awdurdodau cynllunio lleol yng
Nghymru yn y flwyddyn newydd. Nododd y Pwyllgor yr adroddiadau sydd ar ddod ar
sut mae awdurdodau lleol yn gweithredu eu cyfrifoldebau newydd o dan Ddeddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (adroddiad wedi'i gyhoeddi
fis Medi 2019); a’r dyletswyddau newydd a osodwyd arnynt a’u partneriaid gan
Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
(disgwylir i’r adroddiad gael ei gyhoeddi fis Tachwedd 2019), a bydd yn rhoi
ystyriaeth i’r adroddiadau fel rhan o ymchwiliad penodol yn y flwyddyn newydd. |
|
(15.30-15.45) |
Cronfa Gofal Integredig: adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-21-19
Papur 2 – adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(5)-21-19
Papur 3 – ymateb Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Fe
wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru briffio'r Aelodau ar yr adroddiad hwn. 6.2
Cytunodd yr aelodau i barhau i gadw golwg ar y mater hwn a dychwelyd ato yn
gynnar yn y flwyddyn newydd. |