Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad yn edrych ar wasanaethau cyhoeddus ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal (sydd wedi, neu sydd wrthi'n 'derbyn gofal' gan awdurdod lleol o dan Ddeddf Plant 1989 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014) o fewn ei gylch gwaith o ystyried unrhyw fater sy’n ymwneud â pha mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y caiff adnoddau eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru.

 

Nododd y Mae'r Pwyllgor pedwar maes a amlinellir isod:

 

  • Gwariant a gwerth am arian gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal;
  • Effeithiolrwydd trefniadau rhianta corfforaethol awdurdodau lleol;
  • Gwerth am arian ac effeithiolrwydd y trefniadau presennol o ran lleoliadau gofal
  • Gwerth am arian y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer plant sydd wedi bod mewn gofal

 

Dechreuodd y Pwyllgor ar yr ymchwiliad hwn yn yr hydref 2017. Fel rhan o’r gwaith, mae Tîm Allgymorth y Cynulliad Cenedlaethol wedi casglu barn a phrofiadau plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal ledled Cymru, drwy grwpiau ffocws. Mae’r canfyddiadau wedi’u crynhoi yn y ddogfen hon ac ar y fideo sydd wedi’i atodi.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad ar wariant a gwerth am arian gwasanaethau cyhoeddus i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal yn ystod y gwanwyn a’r haf 2018, a chyhoeddodd adroddiad ym mis Tachwedd 2018. Ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2019. Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2020 ac fe drafodwyd y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran gweithredu argymhellion y Pwyllgor. Yn dilyn y sesiwn honno, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor ynglŷn â nifer o faterion.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi ystyried y grŵp hwn o bobl ifanc yn ei waith hefyd, yn enwedig yn ystod ei waith craffu blynyddol ar gyllideb Llywodraeth Cymru a’r Grant Datblygu Disgyblion.

 

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1.

 

Yr Athro Donald Forrester - Cyfarwyddwr Cascade

 

Yr Athro Sally Holland – Comisiynydd Plant Cymru

 

Dr Paul Rees – Athro Cyswllt, Prifysgol Abertawe

 

Sean O’Neill – Plant Yng Nghymru

 

Dydd Llun 17 Gorffennaf

Sesiwn Breifat

Sesiwn Breifat

2.

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

 

Rachel Thomas, Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

Dydd Llun 29 Ionawr 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar Senedd TV

3.

Irfan Alam - Cyngor Caerdydd

 

Kate Devonport – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

 

Sally Jenkins –Cyngor Dinas Casnewydd

 

Gareth Jenkins – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Dydd Llun 29 Ionawr 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 3

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 3 ar Senedd TV

4.

Pobl Ifanc o Voices from Care

 

Chris Dunn – Voices from Care

 

Sean O’Neill – Plant Yng Nghymru

 

Dydd Llun 12 Chwefror 2018

Sesiwn Breifat

Sesiwn Breifat

5.

Pobl Ifanc o Fabric

 

Harri Coleman - Fabric

Dydd Llun 12 Chwefror 2018

Sesiwn Breifat

Sesiwn Breifat

6.

Colin Turner – Rhwydwaith Maethu

 

Kate Lawson – Rhwydwaith Maethu

 

Dydd Llun 12 Chwefror 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 6

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 6 ar Senedd TV

7.

Huw David, WLGA

Geraint Hopkins, WLGA

Naomi Alleyne, WLGA

Dydd Llun 26 Chwefror 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 7

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 7 ar Senedd TV

8.

David Melding AC

 

Cadeirydd Grŵp Cynghori Gweinidogol Llywodraeth Cymru

Dydd Llun 30 Ebrill 2018

Sesiwn Breifat

Sesiwn Breifat

9.

 Lynne Neagle AC

 

Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Dydd Llun 30 Ebrill 2018

Sesiwn Breifat

Sesiwn Breifat

10.

Llywodraeth Cymru

 

Albert Heaney

Alistair Davey

Dydd Llun 30 Ebrill 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 10

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 10 ar Senedd TV

11. Llywodraeth Cymru

 

Albert Heaney

Alistair Davey

Steve Davies

Megan Colley

Dydd Llun 13 Ionawr 2020

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 11

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 11 ar Senedd TV

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/10/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau