Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru
Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad
(PDF 2.18MB) ar 6 Mehefin 2019.
Mae'r adroddiad yn dangos bod yr holl wasanaethau
cynllunio dan sylw wedi gweld toriadau o 50 y cant yn eu cyllidebau yn ystod y
deng mlynedd diwethaf, gan gymryd chwyddiant i ystyriaeth. Gyda llai o gyllid
ar gael i ariannu gwasanaethau, mae capasiti swyddogion cynllunio o dan straen
ac mae lefel y sgiliau sydd ar gael yn crebachu mewn meysydd allweddol. At
hynny, mae nifer yr hyfforddeion sy'n dechrau gyrfa ym maes cynllunio wedi
gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, gan godi pryderon ynghylch cynaliadwyedd
hirdymor y gwasanaethau dan sylw.
Mae'r adroddiad hefyd yn crynhoi safbwyntiau'r cyhoedd, a
ddaeth i'r amlwg mewn arolwg Cymru gyfan. Canfu'r arolwg fod datgysylltiad
cynyddol rhwng yr hyn y mae pobl am ei weld gan eu hawdurdod cynllunio a'r hyn
y gall eu hawdurdod cynllunio ei gyflawni. Dywedodd 67 y cant o ddinasyddion a
gymerodd ran yn yr arolwg nad yw awdurdodau cynllunio lleol yn ymgysylltu'n
effeithiol â hwy ynghylch eu cynigion cynllunio, ac mae llawer yn teimlo bod
cynllunwyr yn canolbwyntio mwy ar geisiadau unigol yn hytrach na chefnogi creu
cymdeithas well sy'n fwy cynaliadwy.
Mae'r penderfyniadau a wneir gan awdurdodau cynllunio
lleol yn effeithio arnom ni i gyd. Gallant gefnogi'r broses o ddatblygu
cartrefi newydd, hyrwyddo cadwraeth, creu cyfleoedd gwaith a gwella seilwaith
lleol. Serch hynny, er bod cynllunwyr yn canolbwyntio ar geisiadau unigol,
pryder dinasyddion Cymru yw nad oes digon yn cael ei wneud i greu cymunedau
bywiog a chynaliadwy.
Nododd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus ganfyddiadau'r Adroddiad, a cynhaliodd ymchwiliad yn nhymor
y Gwanwyn 2020. Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2020.
Cafodd ymateb
Llywodraeth Cymru ei ystyried ym mis Medi 2020.
Sesiwn Dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda a Cofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1. Dr Roisin Willmott - Y Sefydliad Cynllunio Trefol
Brenhinol |
Gwylio
Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV |
||
2. Craig Mitchell - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Mark Hand – Cyngor Sir Fynwy Andrew Farrow – Cyngor Sir Fflint Nicola Pearce – Cyngor Castell-nedd Port Talbot Llinos Quelch – Cyngor Sir Gar |
|||
3. Nick Bennett – Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru |
|||
4. Sophie Howe – Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Cymru Marie Brousseau-Navarro – Swyddfa Comisiynydd
Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru |
|||
5. Llywodraeth Cymru Andrew Slade |
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/07/2019
Dogfennau
- Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru - 1 Mawrth 2021
PDF 243 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Llywodraeth Cymru - 7 Hydref 2020
PDF 172 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru I adroddiad Y Pwyllgor - 17 Medi 2020
PDF 278 KB
- Adroddiad Pwyllgor - Effeithlonrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru (Mehefin 2020) (PDF 1152KB)
PDF 1 MB
- Adran 106 - Sylwadau gan Mark Harris, Cynghorydd Cynllunio a Pholisi Cymru, y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi - 27 Chwefror 2020 (Saesneg yn unig)
PDF 317 KB Gweld fel HTML (5) 13 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - 13 Rhagfyr 2019 (Saesneg yn unig)
PDF 248 KB