Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Bil Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Jeff Cuthbert AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Yn dilyn newid i bortffolios gweinidogol ym mis Medi 2014, nododd y Prif Weinidog mai Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, yw’r aelod sy’n gyfrifol am y Bil o 11 Medi 2014 ymlaen. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi  cyfeirio’r Bil at Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Prif ddibenion y Bil yw:

  • gosod fframwaith lle bydd awdurdodau cyhoeddus penodol yng Nghymru yn ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu, heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain (yr egwyddor datblygu cynaliadwy),
  • gosod nodau llesiant y bydd yr awdurdodau hynny yn ceisio eu cyflawni er mwyn gwella llesiant nawr ac yn y dyfodol,
  • nodi sut y bydd yr awdurdodau hynny yn dangos eu bod yn gweithio tuag at y nodau llesiant,
  • rhoi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chynlluniau llesiant lleol ar sail statudol ac, wrth wneud hynny, symleiddio’r gofynion presennol o ran cynllunio cymunedol integredig, a
  • sefydlu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i Gymru i fod yn eiriolwr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a fydd yn cynghori a chefnogi awdurdodau cyhoeddus Cymru wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan y Bil.

 

Cyfnod presennol

 

Daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru ar 29 Ebrill 2015 (gwefan allanol).

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cyfnod

Dogfennau

 


Cyflwyno'r Bil
: 07 Gorffennaf 2014

 

Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), fel y’i gyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol

 

Datganiad y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol: 07 Gorffennaf 2014

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil: 07 Gorffennaf 2014

 

Datganiad Ysgrifenedig: Cyflwyno Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)

 

Datganiad ynglyn â Bwriad Polisi

 

Crynodeb y Gwasanaeth Ymchwil o’r Bil

 

 


Cyfnod 1:
Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol

 

Ymgynghoriad Cyhoeddus. Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth, a gaeodd ar 5 Medi 2014.

 

Bydd y Pwyllgor yn ystyried y Bil ar y dyddiad(au) a ganlyn:

 

25 Medi 2014

1 Hydref 2014

9 Hydref 2014

23 Hydref 2014

19 Tachwedd 2014

 

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor

 

Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol - Canllawiau Statudol

 

 


Cyfnod 1:
Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol


Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar
9 Rhagfyr 2014.

 


Penderfyniad Ariannol


Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Rhagfyr 2014.

 


Cyfnod 2:
Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau


Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar
5 Chwefror 2015.

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 12 Rhagfyr 2014 f2

Llywodraeth Cymru – Tabl Diben ac Effaith: 12 Rhagfyr 2014

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 23 Ionawr 2015

 

Llywodraeth Cymru – Tabl Diben ac Effaith: 23 Ionawr 2015 (Saesneg yn unig)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 27 Ionawr 2015

 

Llywodraeth Cymru - Tabl Diben ac Effaith: 27 Ionawr 2015 (Saesneg yn unig)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 28 Ionawr 2015

 

Llywodraeth Cymru - Tabl Diben ac Effaith: 28 Ionawr 2015 (Saesneg yn unig)


Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 29 Ionawr 2015, f2

 

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 5 Chwefror 2015

 

Grwpio Gwelliannau: 5 Chwefror 2015

 

Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) – Fel y’i Diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2

 

Memorandwm Esboniadol Diwygiwyd

 

Llywodraeth Cymru - Tabl Diben ac Effaith: 3 Mawrth (Saesneg yn unig)

 

 


Cyfnod 3:
y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

 

Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Mawrth 2015.

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 11 Chwefror 2015 F2

 

Llywodraeth Cymru - Tabl Diben ac Effaith: 11 Chwefror (Saesneg yn unig)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 27 Chwefror 2015 F2

 

Llywodraeth Cymru - Tabl Diben ac Effaith: 27 Chwefror (Saesneg yn unig)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 2 Mawrth 2015 F2

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 3 Mawrth 2015

 

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 10 Mawrth 2015 F2

 

Grwpio Gwelliannau: 10 Mawrth 2015

 

Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3

 

 


Cyfnod 4:
Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

 

Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 17 March 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Bill Llesiant Cenedlaethu’r Dyfodol (Cymru), fel y’i pasiwyd

 

Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), fel y’i pasiwyd (Crown XML)

 


Ar ôl Cyfnod 4

 

Mae'r cyfnod o hysbysiad o bedair wythnos wedi dod i ben. Mae'r breinlythyrau ar gyfer y Bil wedi cael eu cyflwyno i Ei Mawrhydi y Frenhines ar gyfer Cydsyniad Brenhinol.

 

Ysgrifenodd y Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio’r Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 


Dyddiad Cydsyniad Brenhinol

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015.

 

 

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/07/2014

Dogfennau

Ymgynghoriadau