Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/06/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09:30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

09:30 - 9:35

2.

Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-16-20 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

Dogfennau ategol:

2.1

SL(5)547 - Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2020

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

09:35 - 09:40

3.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(5)549 - Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2020

CLA(5)-16-20 – Papur 2 – Adroddiad

CLA(5)-16-20 – Papur 3 – Rheoliadau

CLA(5)-16-20 – Papur 4 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-16-20 – Papur 5 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd, 14 Mai 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn ei drafod ymhellach pan ddaw’r ymateb gan Lywodraeth Cymru i law.

09:40 - 09:45

4.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

4.1

SL(5)531 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020

CLA(5)-16-20 – Papur 6 – Adroddiad

CLA(5)-16-20 – Papur 7 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O dan Reol Sefydlog 17.24A, cafwyd datganiad o fuddiant gan Suzy Davies AS.

 

Trafododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth a gofynnodd am eglurhad ynghylch mater yn ymwneud â llety gweithwyr amaethyddol.

4.2

SL(5)540 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

CLA(5)-16-20 – Papur 8 – Adroddiad

CLA(5)-16-20 – Papur 9 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth.

 

Nododd y Cadeirydd sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor a drefnwyd gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 8 Mehefin, mewn perthynas â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020, fel y'u diwygiwyd.

09:45 - 09:50

5.

Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

5.1

WS-30C(5)160 - Rheoliadau Rheoliad (EC) rhif 1370/2007 (Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus mewn Trafnidiaeth) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020

CLA(5)-16-20 – Papur 10 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-16-20 – Papur 11 – Sylwebaeth

CLA(5)-16-20Papur 20 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol – 29 Mai 2020

CLA(5)-16-20 – Papur 21 – Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol – 1 Mai 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

09:50 - 09:55

6.

Papur(au) i'w nodi

6.1

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE)

CLA(5)-16-20 – Papur 12 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 21 Mai 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

09:55

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

09:55 - 10:05

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd - trafod yr ohebiaeth

CLA(5)-16-20 – Papur 13 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 14 Mai 2020

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a thrafododd y materion i'w cynnwys yn adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Amgylchedd.

10:05-10:15

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Tân

CLA(5)-16-20 – Papur 14 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(5)-16-20 – Papur 15 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol a phapur briffio cefndirol

CLA(5)-16-20 – Papur 16 - Papur Briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a bydd yn trafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

10:15-10:20

10.

SICM(5)28 - Rheoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020 - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-16-20 – Papur 17 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno. Nododd yr Aelodau y byddai'r adroddiad yn cael ei osod maes o law.

10:20-11:05

11.

Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru – briff gan gynghorydd arbenigol y Pwyllgor

CLA(5)-16-20 – Papur 18 - Adroddiad gan gynghorydd arbenigol y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Rhoddodd cynghorydd arbenigol y Pwyllgor gyflwyniad i'r Aelodau ynghylch y gwaith y mae wedi’i wneud fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor.

11:05-11:10

14.

Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru - y wybodaeth ddiweddaraf

CLA(5)-16-20 - Papur 19 – Papur Briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur briffio gan ymchwilwyr y Senedd.

Nododd yr Aelodau fod y cynghorwyr cyfreithiol wedi darparu eglurhad ynghylch Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2020, fel y gofynnwyd yn y cyfarfod ar 18 Mai.