Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch-Tân 2020

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch-Tân 2020

Cyflwynwyd Bil Diogelwch-Tân  (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 19 Mawrth 2020.

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 30 Ebrill 2020.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn dydd Iau 18 Mehefin 2020.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ddydd Gwener 12 Mehefin 2020.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF, 107KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol 17 Mehefin 2020.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2020

Dogfennau