Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(10.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

(10.30 - 11.30)

2.

Ymchwiliad llais cryfach i Gymru: Sesiwn dystiolaeth 7

Y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Hain

 

CLA(5)-12-17 – Briff y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Hain.

 

(11.30 - 12.30)

3.

Ymchwiliad llais cryfach i Gymru: Sesiwn dystiolaeth 8

Y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan i ofyn am dystiolaeth bellach.

 

(12.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 5 a 6 yn unig

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.30 - 12.40)

5.

Ymchwiliad llais cryfach i Gymru: Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.40 - 12.50)

6.

Ymchwiliad llais cryfach i Gymru: Ystyried amserlen yr ymchwiliad

CLA(5)-12-17 – Papur 1 – Papur briffio ar amserlen yr ymchwiliad

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr amserlen ar gyfer yr ymchwiliad a chytunodd ar yr amserlen ddiwygiedig.

 

(13.30 - 14.15)

7.

Codeiddio a chydgrynhoi cyfraith Cymru: Sesiwn dystiolaeth 1

Mick Antoniw AC, Cwnsler Cyffredinol Cymru

 

CLA(5)-12-17 – Papur 2 – Tystiolaeth ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol

CLA(5)-12-17 – Briff y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol.

 

(14.15 - 15.00)

8.

Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar 'Fil y Diddymu Mawr': Sesiwn dystiolaeth 1

Mick Antoniw AC, Cwnsler Cyffredinol Cymru

 

Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar ‘Fil y Diddymu Mawr’ (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol.

 

(15.00)

9.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-12-17 – Papur 3 – Offerynnau Statudol sydd ag adroddiadau clir

Dogfennau ategol:

9.1

SL(5)091 - Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2017

9.2

SL(5)092 - Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) (Diwygio) 2017

9.3

SL(5)093 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) (Diwygio) (Cymru) 2017

9.4

SL(5)094 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) (Diwygio) (Cymru) 2017

9.5

SL(5)095 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2017

9.6

SL(5)096 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017

9.7

SL(5)097 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2017

9.8

SL(5)099 - Rheoliadau Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cywiro, Tir Comin Heb ei Gofrestru neu Dir Comin a Gamgofrestrwyd) (Cymru) 2017

9.9

SL(5)101 - Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017

9.10

SL(5)103 - Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2017

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

 

(15.00 - 15.05)

10.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.7

10.1

SL(5)098 - Canllawiau Statudol - Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru: Llunio a Defnyddio

CLA(5)-12-17 – Papur 4 – Canllawiau Statudol

CLA(5)-12-17 – Papur 5 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y canllawiau a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a'i wahodd i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor ar y defnydd o 'may' a 'must' yn y canllawiau.

 

Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad yn unol â'r adroddiad drafft.

 

(15.05 - 15.10)

11.

Papurau i’w nodi

11.1

Datganiad Ysgrifenedig: Y diweddaraf am gynnydd gwaith y Grŵp Rhanddeiliaid Cyfiawnder

CLA(5)-12-17 – Papur 6 – Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, 10 Ebrill 2017

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig.

 

11.2

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru): Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

CLA(5)-12-17 – Papur 7 – Gohebiaeth oddi wrth Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, 11 Ebrill 2017

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

11.3

Ymchwiliad i Fil y Diddymu Mawr a’i oblygiadau i Gymru: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaethol Ychwanegol

CLA(5)-12-17 – Papur 8 – Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaethol Ychwanegol, 27 Ebrill 2017

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

11.4

Ymateb y Pwyllgor i ymchwiliad Pwyllgor Gweithdrefnau Tŷ’r Cyffredin i bwerau datganoledig ym ‘Mil y Diddymu Mawr’

CLA(5)-12-17 – Papur 9 - Ymateb y Pwyllgor i ymchwiliad Pwyllgor Gweithdrefnau Tŷ’r Cyffredin i bwerau datganoledig ym ‘Mil y Diddymu Mawr’

Pwyllgor Gweithdrefnau Tŷr Cyffredin - 7fed Adroddiad - Materion dan sylw gan y Pwyllgor Gweithdrefnau yn 2017 (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb ac adroddiad Pwyllgor Gweithdrefnau Tŷ'r Cyffredin.

 

(15.10)

12.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

(15.10 - 15.20)

13.

Codeiddio a chydgrynhoi cyfraith Cymru: Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.20 - 15.30)

14.

Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar 'Fil y Diddymu Mawr': Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.

 

(15.30 - 15.45)

15.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru): Adroddiad drafft

CLA(5)-12-17 – Papur 9 – Adroddiad drafft

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.