Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 01/06/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
09:30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cadarnhaodd y
Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, ei fod wedi penderfynu gwahardd y
cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd. Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
09:30 - 9:35 |
Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 CLA(5)-16-20 –
Papur 1 – Offerynnau
statudol sydd ag adroddiadau clir Dogfennau ategol: |
|
SL(5)547 - Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2020 Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
09:35 - 09:40 |
Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(5)549 - Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 CLA(5)-16-20 –
Papur 2 – Adroddiad CLA(5)-16-20 –
Papur 3 – Rheoliadau CLA(5)-16-20 –
Papur 4 – Memorandwm
Esboniadol CLA(5)-16-20 –
Papur 5 – Llythyr gan y Gweinidog
Cyllid a’r Trefnydd at y Llywydd, 14 Mai 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn ei drafod
ymhellach pan ddaw’r ymateb gan Lywodraeth Cymru i law. |
||
09:40 - 09:45 |
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(5)531 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020 CLA(5)-16-20 –
Papur 6 – Adroddiad CLA(5)-16-20 –
Papur 7 – Ymateb
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: O dan Reol Sefydlog 17.24A, cafwyd datganiad o fuddiant
gan Suzy Davies AS. Trafododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth a gofynnodd am
eglurhad ynghylch mater yn ymwneud â llety gweithwyr amaethyddol. |
||
SL(5)540 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 CLA(5)-16-20 –
Papur 8 – Adroddiad CLA(5)-16-20 –
Papur 9 – Ymateb
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth. Nododd y Cadeirydd sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor a
drefnwyd gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 8 Mehefin, mewn
perthynas â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru)
(Diwygio) 2020, fel y'u diwygiwyd. |
||
09:45 - 09:50 |
Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C |
|
WS-30C(5)160 - Rheoliadau Rheoliad (EC) rhif 1370/2007 (Rhwymedigaethau Gwasanaeth Cyhoeddus mewn Trafnidiaeth) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020 CLA(5)-16-20 –
Papur 10 – Datganiad
ysgrifenedig CLA(5)-16-20 –
Papur 11 – Sylwebaeth CLA(5)-16-20 – Papur 20 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol – 29 Mai
2020 CLA(5)-16-20 –
Papur 21 – Llythyr at y
Cwnsler Cyffredinol – 1 Mai 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r
sylwebaeth. |
||
09:50 - 09:55 |
Papur(au) i'w nodi |
|
Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) CLA(5)-16-20 –
Papur 12 – Llythyr gan y
Cwnsler Cyffredinol, 21 Mai 2020 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
09:55 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
09:55 - 10:05 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd - trafod yr ohebiaeth CLA(5)-16-20 –
Papur 13 – Llythyr gan
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 14 Mai 2020 Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a thrafododd y materion i'w cynnwys yn
adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr
Amgylchedd. |
|
10:05-10:15 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Tân CLA(5)-16-20 –
Papur 14 – Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol CLA(5)-16-20 –
Papur 15 – Nodyn Cyngor
Cyfreithiol a phapur briffio cefndirol CLA(5)-16-20 –
Papur 16 - Papur Briffio
gan Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol a bydd yn trafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
10:15-10:20 |
SICM(5)28 - Rheoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020 - trafod yr adroddiad drafft CLA(5)-16-20 –
Papur 17 – Adroddiad
drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno. Nododd yr Aelodau y byddai'r adroddiad yn cael ei osod maes o law. |
|
10:20-11:05 |
Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru – briff gan gynghorydd arbenigol y Pwyllgor CLA(5)-16-20 –
Papur 18 - Adroddiad gan
gynghorydd arbenigol y Pwyllgor Dogfennau ategol: Cofnodion: Rhoddodd cynghorydd arbenigol y Pwyllgor gyflwyniad i'r
Aelodau ynghylch y gwaith y mae wedi’i wneud fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor. |
|
11:05-11:10 |
Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru - y wybodaeth ddiweddaraf CLA(5)-16-20 -
Papur 19 – Papur Briffio
gan Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y papur briffio gan ymchwilwyr y
Senedd. |
|
Nododd yr Aelodau fod y cynghorwyr cyfreithiol wedi darparu eglurhad ynghylch Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2020, fel y gofynnwyd yn y cyfarfod ar 18 Mai. |