Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown AS.

 

2.

Trafod deisebau â 5,000 o lofnodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod deisebau amrywiol â dros 5,000 o lofnodion, sy’n ymwneud â COVID-19, a chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn bod amser ar gael cyn toriad yr haf i gynnal dadl ar ddeiseb P-05-967 Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru. At hynny, mynegodd y Pwyllgor awydd i drefnu dadleuon nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19, cyn gynted â phosibl.

 

 

3.

Deisebau COVID-19

3.1

P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed a staff sy’n feichiog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb ffurfiol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r ddeiseb, yn y gobaith y gallai hwnnw gynnwys gwybodaeth bellach o ran y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i fyrddau iechyd ailystyried.

 

 

3.2

P-05-967 Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Cyllid i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau pellach a gynhaliwyd gyda Debenhams neu fanwerthwyr mawr eraill, a gofyn pa opsiynau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried o ran darparu cefnogaeth; ac

·         ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am gael dadl yn y Cyfarfod Llawn cyn toriad yr haf.

 

 

4.

Deisebau newydd

4.1

P-05-952 Dylid mynd yn ôl i sillafu enwau lleoedd Cymraeg yn y ffordd Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd ar yr ymateb a ddarparwyd gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach, neu beidio.

 

4.2

P-05-961 Gostwng yr oedran ar gyfer sgrinio canser y fron yng Nghymru o 50 i 30

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd ar yr ymateb a ddarparwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach, neu beidio.

 

4.3

P-05-963 Dylid ei gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi unrhyw fwyd sydd dros ben i elusennau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn am fanylion pellach am asesiad presennol Llywodraeth Cymru o'i phwerau o ran dosbarthu bwyd sydd dros ben, a'r pwerau sy'n cael eu ceisio gan Weinidogion Cymru trwy Fil Amgylchedd y DU.

 

5.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

5.1

P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ar y sail bod yr ymgyrchwyr wedi llwyddo i gael ailasesiad o’r risg o ran llifogydd cyn i unrhyw waith pellach gael ei wneud yn y parc – a gan nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu gwneud gwaith pellach ar hyn o bryd – cytunodd y Pwyllgor nad oes camau pellach y gall eu cymryd cyn diwedd y tymor y Senedd hon.  Estynnodd y Pwyllgor ei longyfarchiadau i’r deisebwyr ar eu llwyddiant, a chau'r ddeiseb.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu i annog Cyfoeth Naturiol Cymru i rannu eu hailasesiad o gam olaf Cynllun Llifogydd y Rhath gyda'r deisebwyr cyn gynted â phosibl.

 

 

5.2

P-05-815 Rheoli'r Diwydiant Dofednod Dwys Sy'n Ehangu'n Gyflym Yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth bellach, a nododd fod y gwaith yn mynd rhagddo i adolygu – a phan fydd cyfleoedd yn cael eu nodi, cryfhau – gofynion cynllunio sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth ddwys. Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r pryderon difrifol a fynegwyd gan y deisebwyr trwy gydol y broses hon ond daeth i'r casgliad – yn wyneb yr ymatebion a gafwyd gan y Gweinidog, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebwyr – mai prin iawn yw’r hyn y gallai ei gyflawni ymhellach ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac ysgrifennu at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn a all barhau i fonitro datblygiadau fel rhan o'u gwaith ynghylch defnydd tir a bioamrywiaeth.

 

5.3

P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gwybodaeth ychwanegol a chytunwyd ar y camau a ganlyn:

·         aros am ddiweddariad pellach gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig unwaith y bydd hi wedi gallu cynnal trafodaethau pellach gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a Chymdeithas Filfeddygol Prydain; ac

·         ysgrifennu at Goleg Brenhinol y Milfeddygon i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb, ac yn sylwadau dilynol y deisebydd.

 

 

5.4

P-05-933 Gwahardd pysgod aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffair. #OperationGoldfish

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gwybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig er mwyn:

·         gofyn am ddiweddariad o ran a yw cyfarfod Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru wedi'i gynnal yn sgil pandemig COVID-19, a gofyn eto am eglurhad ynghylch y potensial i fynd i'r afael â'r mater hwn trwy'r Rheoliadau sydd i ddod er mwyn cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer Arddangosion Anifeiliaid; a

·         rhannu'r wybodaeth a ddarperir gan y deisebydd a'r RSPCA mewn ymateb i'r honiadau a wnaed gan y Showmen’s Guild.

 

5.5

P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gwybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu eto at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am ymateb i'r pryderon a godwyd gan y deisebwyr, gan gynnwys yn eu llythyr diweddaraf at y Pwyllgor.

 

5.6

P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn dilyn ymrwymiad y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd yr Adolygiad o Chwarae gan y Gweinidog yn cynnwys ystyried trefniadau cyllido a'r ohebiaeth a gafodd y Pwyllgor, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r ddeiseb. Dywedodd Aelodau'r Pwyllgor y byddent yn parhau i graffu ar yr adolygiad gan y Gweinidog yn rhinwedd eu swydd fel Aelodau unigol o'r Senedd.

 

5.7

P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gwybodaeth bellach a chytunodd i aros am ddiweddariad pellach yn dilyn y cyfarfod a gynlluniwyd gyda Haemophilia Cymru a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Waed, cyn ystyried a all gymryd unrhyw gamau pellach.

 

5.8

P-05-905 Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gan fod y ddeiseb yn galw am ymchwiliad barnwrol annibynnol i’r broses o reoli Rhaglen De Cymru a’i rhoi ar waith, a bod hynny wedi'i ddiystyru'n benodol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – ac yn sgil y penderfyniad diweddar i gadw'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys ar agor yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg – cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a llongyfarch y rhai a gymerodd ran ar y ffaith bod yr ymgyrch i gadw gwasanaethau’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn yr ysbyty wedi llwyddo.

 

5.9

P-05-936 Cynnig Prawf Sgrinio Canser y Coluddyn ar ôl 74 oed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gael gwybod:

·         A oes unrhyw ymchwil wedi'i chomisiynu yng Nghymru – neu a fydd yn cael ei chomisiynu – i fuddion, neu’r niwed posibl yn sgil sgrinio canser y coluddyn i bobl dros 74 oed, a'r amserlen gysylltiedig; a

·         syniad o'r amserlen ar gyfer cyflwyno sgrinio i bobl yn y grŵp oedran 50-59.

 

5.10

P-05-862 Mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Mae'r Comisiynydd Plant wedi mynegi ei boddhad â statws statudol y canllawiau gwrth-fwlio newydd, sy'n cynnwys gofynion i ysgolion ddatblygu polisïau cadarn, a chofnodi a monitro. At hynny, mae hi wedi nodi y bydd ei swyddfa yn parhau i fonitro. Ar y sail honno, cytunodd y Pwyllgor nad oes fawr ddim pellach y gallai'r Pwyllgor ei gyflawni ar hyn o bryd. O ganlyniad, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am godi’r mater hwn.

 

5.11

P-05-880 Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn wyneb y ffaith y bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn monitro’r cynnydd pellach o ran ariannu a darparu gwasanaethau addysg cerddoriaeth, yn dilyn eu hadroddiad blaenorol ar y pwnc hwn, cytunodd y Pwyllgor i rannu sylwadau pellach y deisebydd â hwy, cau’r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

5.12

P-05-925 Addysgu Llesiant Mislifol mewn Ysgolion: Peidio â Gadael Cymru Tu Ôl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ar y sail bod Llywodraeth Cymru yn glir bod y Cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru yn hyrwyddo hyblygrwydd ac na fydd yn cyflwyno rhestr fanwl o bynciau sy’n rhaid i ysgolion eu haddysgu, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer pellach y gellid ei gyflawni. Cytunodd i gau'r ddeiseb.

 

5.13

P-05-938 Gwneud i brifysgolion Cymru ystyried Bagloriaeth Cymru fel Safon Uwch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn wyneb safbwynt y Gweinidog Addysg mai mater i brifysgolion yw sefydlu'r gofynion mynediad ar gyfer eu cyrsiau – ac wrth nodi'r gwaith sydd ar y gweill ar gyfer ymateb i argymhellion a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer pellach y gallai'r Pwyllgor ei gyflawni. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am godi’r mater hwn. 

 

5.14

P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth bellach a chytunodd i gau'r ddeiseb yn dilyn cadarnhad y bydd cynigion i gryfhau darpariaeth i ddisgwyl cyfleusterau newid babanod mewn toiledau dynion a menywod yn cael eu cynnwys yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, sydd ar ddod, ar gyfleusterau newid mewn toiledau, ac estynnwyd llongyfarchion i’r deisebydd ar yr ymgyrch.

 

5.15

P-05-898 Dylid gwahardd defnyddio byrddau A yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn pa ystyriaeth sy'n cael ei rhoi i faterion hygyrchedd o ran cynlluniau i ffurfweddu lleoedd cyhoeddus, er mwyn galluogi pellter cymdeithasol oherwydd Covid-19.

 

5.16

P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth ychwanegol a chytunwyd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu’n ôl at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i ofyn a yw effeithiau Covid-19 ar drafnidiaeth gyhoeddus wedi effeithio ar awydd Llywodraeth Cymru i gynnal y potensial o adfer gwasanaethau rheilffordd yn y dyfodol; ac

·         ysgrifennu at Network Rail i ofyn iddyn nhw hyrwyddo pwysigrwydd deialog barhaus rhwng yr holl bartïon, ac i geisio ateb a allai, o bosibl, ymgorffori sawl defnydd ar gyfer y llinell.

 

 

5.17

P-05-918 Gwella mynediad i’r anabl yng ngorsaf reilffordd Trefforest fel blaenoriaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn dilyn yr eglurder pellach ynghylch amserlen y gwaith i wella mynediad i orsaf drenau Trefforest – sydd i ddechrau ym mis Medi – a bodlonrwydd y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, a diolchodd i'r deisebydd am dynnu sylw at y mater hwn.