P-05-862 Mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion

P-05-862 Mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion

Wedi'i gwblhau

P-05-862 Mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan BlowforBradley Campaign, ar ôl casglu 1,463 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

 

​​Rydym yn credu bod achosion o fwlio mewn ysgolion yn cael eu hanwybyddu’n aml ac nad yw’r mater yn cael ei wynebu mewn gormod o achosion. Mae’n ofynnol i ysgolion fod â pholisi gwrth-fwlio ond, yn rhy aml, datganiad gwaith papur yn unig yw hyn na weithredir arno.

 

Rydym am i Gynulliad Cymru greu fframwaith gwrth-fwlio safonol y gellir ei orfodi drwy’r gyfraith. Mae bwlio mewn ysgolion yn aml yn effeithio ar y dioddefwyr ar hyd eu bywydau, felly mae angen newidiadau gan fod y system bresennol yn fethiant.

 

Yn aml, nid yw ysgolion yn cofnodi achosion o fwlio o’r fath oherwydd ofn gwneud niwed i’w henw da ac mae’r dioddefwyr sy’n codi llais yn aml yn canfod eu bod eu hunain yn cael eu cosbi, gan wneud mwy fyth o niwed i’w hunan-barch.

 

Rydym yn mynnu y caiff achosion o fwlio eu cofnodi ac y gweithredir arnynt drwy system gofnodi well, teledu cylch cyfyng, adrodd, a chyswllt gorfodol â rhieni.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 23/07/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Mae'r Comisiynydd Plant wedi mynegi ei boddhad â statws statudol y canllawiau gwrth-fwlio newydd, sy'n cynnwys gofynion i ysgolion ddatblygu polisïau cadarn, a chofnodi a monitro. At hynny, mae hi wedi nodi y bydd ei swyddfa yn parhau i fonitro. Ar y sail honno, cytunodd y Pwyllgor nad oes fawr ddim pellach y gallai'r Pwyllgor ei gyflawni ar hyn o bryd. O ganlyniad, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am godi’r mater hwn.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/02/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

·         Llanelli

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/02/2019